Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol yn croesawu hyrwyddwr dinasoedd clyfar i’w chymuned

17 Gorffennaf 2018

Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi penodi Peter Madden OBE, sy’n hyrwyddo dinasoedd clyfar, arloesedd a chynaliadwyedd, yn Athro Ymarfer Dyfodol Dinasoedd.

Cwblhaodd yr Athro Madden ei astudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn ymgymryd â gradd ôl-raddedig yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae’n gyn-Brif Swyddog Gweithredol ar ‘Future Cities Catapult’ - canolfan arbenigedd ar arloesi trefol, yn Brif Swyddog Gweithredol ar ‘Forum for the Future’, yn Bennaeth Polisi yn Asiantaeth yr Amgylchedd, yn Gynghorydd Gweinidogol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn Gyfarwyddwr ar y ‘Green Alliance’ ac ar hyn o bryd mae’n cyflawni nifer o rolau anweithredol gydag amrywiaeth o sefydliadau.  Mae’n aelod o Fwrdd Ystâd y Goron, yn Gadeirydd ar ‘Building with Natur’, yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Cynaliadwy Ingersoll Rand, ac yn Gyfarwyddwr-Sylfaenydd Ecovivid.

Wrth gyfeirio at ei benodiad, dywedodd yr Athro Madden: "Rwy'n gyffrous fy mod i’n gweithio gyda phrifysgol wych mewn dinas wych.  Byddaf yn dod â'm profiad ymarferol, fy rhwydweithiau rhyngwladol a’m dealltwriaeth o'r hyn mae rhanddeiliaid am ei gael gan y byd academaidd, i baratoi’r myfyrwyr ar gyfer byd gwaith ac i leoli Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Caerdydd ar flaen y gad o ran ymchwil ar ddyfodol dinasoedd.

“Bydda i’n helpu i ymgysylltu â busnes a dinasoedd, er mwyn symbylu gwaith ar y cyd a mwyafu effaith ymchwil.”

Ychwanegodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Mae Peter yn arbenigwr cydnabyddedig yn fyd-eang ar gynaliadwyedd, arloesi a dinasoedd clyfar. Bydd ei gefndir academaidd, proffesiynol a pholisi yn llywio ei rôl newydd fel Athro Ymarfer Dyfodol Dinasoedd - gan helpu i hybu cymhwysiad ymarferol ysgoloriaethau er budd i ddiwydiant, llywodraeth a chymdeithas”.

Dyfarnwyd OBE i’r Athro Madden yn 2014 am wasanaethau i amddiffyn yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy yn 2014. Mae'n cyflwyno ac yn darlithio ar draws y byd ym maes arloesi trefol ac mae’n ysgrifennu erthygl reolaidd ar ddinasoedd clyfar i’r Huffington Post. Bydd yn ymgymryd â’i rôl newydd ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Llun 16 Gorffennaf 2018.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.