Ewch i’r prif gynnwys

'Teimlaf fraint mawr'

17 Gorffennaf 2018

Lazarus Hangula

Mae Is-ganghellor Prifysgol Namibia (UNAM) – sy'n rhoi'r gorau i'w swydd – wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd, i gydnabod ei yrfa ddisglair a'i gefnogaeth i brosiect trawsnewidiol.

Cafodd yr Athro Lazarus Hangula'r anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd mewn seremoni yn y ddinas ddydd Llun 16 Gorffennaf.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio'n agos gydag UNAM yn rhan o'r prosiect llwyddiannus, Prosiect Phoenix, sy'n ceisio lleihau tlodi, hyrwyddo iechyd a chreu amgylchedd cynaliadwy.

Cafwyd cinio arbennig i ddathlu'r achlysur ar gyfer yr Athro Hangula, ac roedd Uwch-gomisiynydd y DU i Namibia, Kate Airey OBE, ac Uwch-gomisiynydd Namibia i'r DU, Steve Vemunavi Katjiuanjo yn bresennol yn y cinio.

Mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru – a ddathlodd ei 10fed pen-blwydd yn ddiweddar – wedi bod yn gefnogwr cryf o waith Prosiect Phoenix.

Yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Rydym yn falch o allu cefnogi ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol ar draws Cymru ar gyfer ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd yn enghraifft ardderchog o'r fath waith.

"Mae rhywfaint o'r gwaith eithriadol y mae Prosiect Phoenix wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wedi helpu Prifysgol Namibia i wella safonau, ac mae wedi cyflawni canlyniadau ardderchog ym meysydd iechyd, rhaglennu cyfrifiadurol a mathemateg. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymrwymiad a gwaith caled yr Athro Hangula."

Yn ôl yr Athro Hangula: "Braint o'r mwyaf yw cael fy newis ar gyfer pantheon anrhydeddau eich sefydliad academaidd nodedig, uchel ei barch – Prifysgol Caerdydd – yn un o'i Chymrodyr cyntaf o Namibia.

Yn ôl Rhag Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford, roedd yr Athro Hangula wedi dangos "ymrwymiad diwyro ac angerdd tuag at addysg".

Meddai: "Fel Is-ganghellor Prifysgol Namibia, mae'r Athro Hangula wedi llywio'r broses o ehangu'r sefydliad yn sylweddol, ac wedi rhoi nifer o newidiadau cadarnhaol ar waith sydd wedi gwneud y brifysgol yn lle mor hyfryd i weithio ac astudio ynddo.

"Mae'r cysylltiadau y mae wedi'u creu gyda sefydliadau addysg uwch y tu allan i Affrica wedi cynyddu proffil y brifysgol yn aruthrol, ac wedi datgloi cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr ar draws y byd."

Yn ôl yr Athro Judith Hall o Brifysgol Caerdydd, arweinydd Prosiect Phoenix: "Mae Prifysgol Caerdydd ac UNAM wedi gwella ansawdd bywyd pobl Namibia a Chymru yn sylweddol, ac ni fyddai dim o hynny wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth yr ysgolhaig, addysgwr a'r dyn ardderchog hwn.

"Rwy'n hynod o ddiolchgar i'r Athro Hangula am ei gefnogaeth barhaus a'i gred yn y bartneriaeth rhwng ein priod brifysgolion – a'n gwledydd – gwych."

Mae'r Athro Hangula – sydd wedi bod yn Is-ganghellor UNAM am 14 mlynedd – yn rhoi'r gorau i'r swydd a bydd yr Athro Kenneth Matengu yn cymryd yr awenau ar 1 Awst eleni.

Mae Prosiect Phoenix wedi cael effaith sylweddol ers ei lansio'n swyddogol gan Mr Jones yn 2014. Mae wedi creu dros 30 o becynnau gwaith a sicrhau dros £1m o arian allanol.

Rhannu’r stori hon

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yn gweithio ar ran pobl Namibia a Chymru.