Ewch i’r prif gynnwys

Busnes Pobl

16 Gorffennaf 2018

Business of people

Mae busnesau yn gyfarwydd â gweithio gyda Phrifysgolion ynghylch arloesedd technolegol, ond mae arloesedd cymdeithasol yn hanfodol i lwyddiant masnachol.

Mae angen i sefydliadau addasu yn gyson i ddeall cwestiynau er enghraifft, sut bydd pobl yn dewis rheoli incwm gwario sy'n lleihau? Neu, sut mae moeseg defnyddwyr yn dylanwadu ar beth sy’n cael ei brynu?

Bydd digwyddiad Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd rhad ac am ddim ar 18 Gorffennaf yn edrych ar sut y gall busnesau ddefnyddio arbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol i'w helpu i ddeall sut mae pobl yn ymddwyn.

Bydd arbenigwyr o'r Brifysgol a diwydiant yn amlinellu rhai o'r prif heriau a chyfleoedd, yn cynnwys modelu busnes, cysylltiadau masnach a chyflogwr ac astudio newid ymddygiadol.

Cydnabyddir Prifysgol Caerdydd yn un o ddeg prif sefydliad ymchwil yn y DU ar gyfer gwyddorau cymdeithasol sy’n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar ystod o brosiectau.

Mae'r Brifysgol yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau busnes cydweithredol/gwyddorau cymdeithasol, o weithio mewn partneriaeth â chwmni logisteg byd-eang Panalpina, i ddeall optimeiddio cadwyn gyflenwi, i weithio gyda chartrefi gofal preifat fel bod staff a phreswylwyr yn cyfathrebu’n well.

Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol: “Mae ein partneriaeth gyda Panalpina yn esiampl eithriadol o sut y gall partneriaethau adeiladu ar allu cynyddol y Brifysgol i gyflawni arloesi a arweinir gan her ac sy'n canolbwyntio ar gymdeithas.

Mae'r Brifysgol hefyd yn datblygu SPARK, sef parc ymchwil gwyddoniaeth gymdeithasol gyntaf y byd. Bydd y cyfleuster yn caniatáu inni wahodd ymchwilwyr a phartneriaid allweddol yn y diwydiant ar y safle a chyd-leoli gyda nhw, i greu mwy o gyfle iddynt gyfathrebu a datblygu gweithgaredd ymchwil ar y cyd yn ogystal â’n galluogi ni i ddod â'n grwpiau ymchwil gwyddoniaeth gymhwysol at ei gilydd.”

Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn arian i gefnogi partneriaethau rhwng busnesau, academyddion ac ôl-raddedigion Caerdydd. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am hyn a chynlluniau eraill yn y digwyddiad.

Bydd cyfres o gyflwyniadau byr ar y noson gan staff academaidd, busnesau a staff cymorth arian fydd yn cynnig cyngor, arweiniad a phrofiad uniongyrchol. Ceir sesiwn Holi ac Ateb a lluniaeth wedi hynny.

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn ond mae angen cofrestru. Cofrestrwch yma.

Rhannu’r stori hon