Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn dathlu graddedigion llawn cyntaf cwricwlwm meddygol arloesol

16 Gorffennaf 2018

graduates jumping in celebration

Yr wythnos hon, mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn dathlu Graddio’r garfan gyntaf i gwblhau pum mlynedd gyfan y cwricwlwm C21. 

Mae C21, sef yr enw a roddir i radd Feddygaeth israddedig MBBCh Prifysgol Caerdydd, wedi ail-lunio addysg feddygol yng Nghymru i fodloni anghenion y GIG yng Nghymru a’i chymunedau lleol.

Goruchwyliodd yr Athro John Bligh, lluniwr C21 ac yna’n Ddeon Addysg Feddygol, ymgynghoriad eang â miloedd o glinigwyr, cleifion, academyddion, myfyrwyr meddygol a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y GMC a’r BMA.  Y canlyniad oedd rhaglen addysg feddygol arloesol sy’n rhoi cleifion yn gyntaf gan ddefnyddio’r dysgu hunangyfeiriedig, ymarferol sydd ei angen ar feddygon hyd eu gyrfa.

Dywedodd un o raddedigion 2018, Dr Shafqat Batchelor;
“Mae’r cwricwlwm yn gweithio drwy sicrhau nad ydych byth fwy nag wythnos i ffwrdd o glaf neu gysylltiad clinigol, sy’n sicrhau bod yr holl theori’n gwneud synnwyr. Mae’n hoelio’r ffaith taw diben yr holl astudio yw i fod yn feddyg ar ddiwedd y radd.”

Mae dull arloesol C21 yn golygu bod 270 o raddedigion Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn fwy parod nag erioed at eu diwrnod cyntaf yn feddyg cychwynnol.  Eleni mae dros hanner y graddedigion wedi dewis gweithio yng Nghymru; bydd tua 53% yn aros i weithio yma i gyflawni eu blwyddyn F1.

Mae cwricwlwm arloesol MBBCh Caerdydd wedi’i lunio i greu graddedigion sy’n deall pobl Cymru a’r byd ehangach; maen nhw’n cael eu rhoi wrth wraidd cymunedau lleol drwy gydol pum mlynedd eu cwrs ac felly’n deall anghenion cymunedau Cymru.  Mae’r cwricwlwm hefyd yn

galluogi siaradwyr Cymraeg i ddatblygu eu sgiliau mewn Meddygaeth yn eu hiaith gyntaf, gyda hyd at draean o’r cwrs yn cael ei gynnig yn Gymraeg.

Eglurodd yr Athro John Bligh:
“Mae’r cwricwlwm C21 yn seiliedig ar egwyddorion addysgol cadarn a’r dystiolaeth orau sydd gennym am yr hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr i’w helpu i fod yn feddygon diogel, effeithiol a gofalgar.  Mae’n parhau i hyfforddi ein myfyrwyr ar sgiliau hollbwysig gofal cleifion a diagnosis a thrin clefydau, wrth i’r myfyrwyr hefyd ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn feddygon yn yr 21ain ganrif: sut i gyfathrebu â chleifion, teuluoedd, gofalwyr a’r tîm gofal iechyd ehangach mewn gosodiad clinigol cyfoes; sut i ddatblygu a rhoi ar waith wyddoniaeth feddygol gyfoes i wasanaethu cleifion a’u cymunedau; a sut i arwain newid seiliedig ar dystiolaeth ac arloesi yn y GIG.”

Diolch i C21, mae meddygon a hyfforddwyd yng Nghymru’n cael croeso brwd mewn wardiau ysbyty ledled Prydain.  Ers 2013, mae myfyrwyr y 5ed flwyddyn wedi bod ar raglen blwyddyn olaf o’r enw’r Flwyddyn Bontio. Mae’r uchafbwynt, sef bod yn Uwch Gynorthwy-ydd dan Hyfforddiant (SSA) yn galluogi myfyrwyr sy’n dewis aros yng Nghymru i gysgodi’r meddyg sydd ar ei flwyddyn gychwynnol y bydd yn ei olynu, gan leddfu ei ddiwrnod cyntaf hollbwysig - ac yn draddodiadol frawychus - fel meddyg.

Meddai’r Athro Siladitya Bhattacharya, Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth:
“Mae C21 wedi arwain y ffordd wrth fod yn gwrs meddygol israddedig arloesol sy’n galluogi myfyrwyr meddygol i fodloni gofynion arfer meddygol cyfoes. Dymunwn yn dda i ddosbarth 2018 wrth iddynt ddechrau ar eu bywydau proffesiynol.”

Cardiff’s innovative MBBCh curriculum is designed to produce graduates who understand the people of Wales and the wider world; they are firmly embedded in local communities throughout the five years of their course and so understand the needs of the communities of Wales. The curriculum also enables Welsh-speakers to develop their skills in Medicine in their first language, with up to a third of the course being offered through the medium of Welsh.

Professor John Bligh explained:
“The C21 curriculum is based on sound educational principles and the best evidence we have about what students need to help them become safe, effective and caring doctors. It continues to train our students in the timeless skills of patient care and the diagnosis and treatment of disease, while at the same time, students learn the skills needed to equip them for 21st century practice: how to communicate with patients, families, carers and the wider healthcare team in the modern clinical setting; how to develop and apply modern medical science in the service of patients and their communities; and how to lead evidence-based change and innovation within the NHS.”

Thanks to C21, doctors trained in Wales are more welcome than ever in hospital wards across Britain.  Since 2013, all 5th year students have been on the final year programme known as their Harmonisation Year. Its highlight, the Senior Student Assistantship (SSA), enables students who choose to stay in Wales after graduation shadow the junior doctor whose shoes they will fill on that important - and traditionally terrifying - first day as a doctor

Professor Siladitya Bhattacharya, Head of the School of Medicine concluded;
"C21 has led the way in terms of being an innovative undergraduate medical course which enables medical students to meet the demands of modern medical practice. We wish the class of 2018 well as they start their professional lives.”

Rhannu’r stori hon

Edrychwch beth sydd gan ein myfyrwyr meddygaeth i’w ddweud am astudio yma.