Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltiad genetig newydd ar gyfer canser y prostad

12 Gorffennaf 2018

Prostate scan

Mae ymchwil newydd wedi taflu goleuni ar y mecanweithiau sydd wrth wraidd canser y prostad, gan ddarparu targedau posibl ar gyfer therapïau canser newydd.

Canser y prostad yw’r trydydd achos mwyaf cyffredin o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser yn y DU, ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi canfod newid genetig sy'n gysylltiedig â rhagolygon gwael ar gyfer cleifion sy'n dioddef o'r clefyd.

I ddechrau, mae cleifion sydd â chanser datblygedig y prostad yn ymateb yn dda i therapïau hormonaidd, ond ymhen amser bydd bron pawb yn datblygu ffurf ymosodol o'r clefyd o'r enw canser y prostad sy'n gwrthsefyll disbaddu.

Yn flaenorol, dangoswyd bod mwtadiadau genetig mewn gennyn atal tiwmor, PTEN, yn ysgogi llwybr signalau cell, PI3K. Mae hyn yn galluogi celloedd canser y prostad i dyfu'n ddi-reolaeth.

Mae’r gwaith ymchwil newydd wedi datgelu rôl mwtaniad genetig arall yng nghanser y prostad, sy’n dylanwadu ar natur ymosodol y clefyd.

Dywedodd Dr Helen Pearson, o’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym wedi adnabod mwtadiad genetig newydd a allai ysgogi twf celloedd canser y prostad. Yn ein gwaith ymchwil, fe welon ni fod celloedd prostad, o dderbyn mwtaniad yn y gennyn PIK3CA, yn fuan yn ffurfio tiwmorau oedd wedi datblygu gallu i wrthsefyll therapi hormonau.

"Gwelsom hefyd fod newidiadau genetig PTEN a PIK3CA yn bresennol yng nghanser y prostad, a'u bod yn gallu gweithio gyda'i gilydd trwy fecanweithiau a allai fod yn annibynnol i gyflymu datblygiad y tiwmor, yn ogystal ag achosi'r canser i wrthsefyll therapi hormonaidd.

"Mae lefelau goroesi gwael ymhlith cleifion sydd â chanser y prostad sy’n gwrthsefyll disbaddu. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn datblygu triniaethau newydd, wedi’u targedu ar gyfer y clefyd ymosodol hwn."

Ychwanegodd yr Athro Wayne Phillips o Ganolfan Ganser Peter MacCallum, Melbourne, Awstralia: "Mae'r gwaith ymchwil hwn yn rhoi cipolwg newydd ar sut mae canser y prostad yn datblygu, ac yn darparu sylfaen ar gyfer dulliau therapiwtig newydd wedi'u targedu i fynd i'r afael â’r clefyd hwn."

Roedd y gwaith ymchwil yn deillio o gydweithio rhyngwladol rhwng Dr Helen Pearson a'r Athro Wayne Phillips yng Nghanolfan Canser Peter MacCallum, Melbourne, Awstralia.

Mae’r ymchwil ‘Amlygu mwtaniad Pik3ca fel gyrrwr genetig canser y prostad sy’n gweithio ochr yn ochr â cholli Pten er mwyn cyflymu cynnydd a thwf sy’n gwrthsefyll disbaddiad’ wedi’i chyhoeddi yn Canser Discovery.