Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn llongyfarch Tîm UDA ar ennill cystadleuaeth trafodaethau rhyngwladol

11 Gorffennaf 2018

Leah Parrish (yn y canol) a Doug Leach (ar y dde) gyda'r Athro Larry Teply, Cadeirydd, Pwyllgor Gweithredol INC
Leah Parrish (yn y canol) a Doug Leach (ar y dde) gyda'r Athro Larry Teply, Cadeirydd, Pwyllgor Gweithredol INC.

Cafodd tîm o fyfyrwyr o'r UDA eu coroni'n drafodwyr buddugol ym mis Gorffennaf eleni mewn cystadleuaeth ryngwladol a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Fe drechodd Doug Leach a Leah Parrish, a oedd wedi teithio o Brifysgol McGeorge yng Nghaliffornia, 27 o dimau myfyrwyr eraill a ddaeth o wledydd mor bell â Brasil, Indonesia, Seland Newydd a Slofacia.

Mae Rownd Derfynol Cystadleuaeth y Trafodaethau Rhyngwladol yn dri diwrnod cystadleuol a gynhelir mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Yn y digwyddiad, mae myfyrwyr y gyfraith yn cystadlu mewn parau er mwyn trafod cytundebau a sefyllfaoedd damcaniaethol. Maent hefyd yn mynd i ddosbarthiadau meistr pwrpasol gyda siaradwyr o gefndiroedd a meysydd amrywiol. Mae'r digwyddiad hefyd yn cynnwys gweithgareddau a theithiau twristiaeth sy'n cael eu darparu gan y ddinas sy’n cynnal y gystadleuaeth. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Mhrifysgol Oslo yn 2017.

Dechreuodd y digwyddiad eleni ar 26 Mehefin gyda diwrnod o seminarau yn cael eu darparu gan arbenigwyr trafodaethau rhyngwladol. Roedd y pynciau'n amrywio o wrando'n astud, siarad yn ofalus a gwahanol arddulliau o gyd-drafod, i'r pwysigrwydd o fod yn gyfforddus gyda rhifau a ffigurau mewn trafodaethau rhyngwladol. Dilynwyd y seminarau gan ddosbarthiadau meistr ar ystod o bynciau sy'n canolbwyntio ar drafodaethau byd-eang, gan gynnwys straeon gan arbenigwr mewn trafodaethau gwrth-apartheid, sut y cynrychiolir Cymru mewn trafodaethau Brexit, a chyn-drafodydd Scotland Yard yn cynnal ymarfer gwystl byw gyda myfyrwyr.

Dechreuodd y gystadleuaeth ar yr ail ddiwrnod, gyda sefyllfaoedd yn seiliedig ar faterion sy'n berthnasol i Gymru gan gynnwys cytundeb yn ymwneud â'r Eisteddfod, a oedd yn cynnwys timau yn mynd i'r afael ag ynganiadau'r Gymraeg! Roedd y timau hefyd yn cyd-drafod bargen ddychmygol gwerth miliynau o bunnoedd yn cynnwys dau o brif sêr Cymru, Catherine Zeta Jones a Tom Jones. Wrth gwrs, roedd y drafodaeth yn un ffug, ond roedd y materion yn rhai go iawn.

I allu anghofio pwysau'r gystadleuaeth am ychydig, trefnwyd teithiau i atyniadau lleol, Caerffili a'r Pwll Mawr, a chynhaliwyd digwyddiadau a oedd yn cynnwys côr meibion a bwyd traddodiadol o Gymru.

Dywedodd cyflwynydd y digwyddiad eleni, yr Athro Julie Price, "Roedd yn wych croesawu cynifer o drafodwyr ifanc rhyngwladol i'r rownd derfynol a gynhaliwyd eleni yng Nghaerdydd. Rydym yn gobeithio bod yr holl dimau wedi mwynhau eu hunain, a bod y gystadleuaeth, y seminarau a'r dosbarthiadau meistr wedi bod yn fuddiol ac yn addysgiadol.

Dywedodd y trefnydd, Matthew Parry, sy’n fyfyriwr PhD ac yn Gyfreithiwr-Eiriolwr, "Roedd y digwyddiad yn gymysgedd o addysg, cystadleuaeth a chyfeillgarwch, wedi'i gyfuno i ddarparu wythnos ysgogol a fwynhawyd gan bawb. Yn ogystal â llongyfarch yr enillwyr Doug a Leah, hoffwn hefyd longyfarch ein myfyrwyr Sophie Rudd a Charles Wilson a ddaeth yn wythfed yn y digwyddiad cyffredinol. Maent wedi gweithio'n anhygoel o galed drwy gydol y flwyddyn, yn cystadlu rownd ar ôl rownd mewn cystadlaethau trafodaethau rhyngwladol. Felly, roedd yn wych eu gweld yn gweithio ochr yn ochr â'u cyfoedion rhyngwladol mewn ffordd mor effeithiol a phroffesiynol yn y rownd derfynol. Da iawn i bawb a gymerodd ran!"

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ddiolchgar i'r Ganolfan Datrys Anghydfodau’n Effeithiol (CEDR) am noddi'r digwyddiad, yn ogystal â chwmni cyfreithiol rhyngwladol Latham & Watkins am eu nawdd ychwanegol. Rhoddodd Cymdeithas Cyfraith Cymru a Lloegr ac Undeb Rygbi Cymru eu cefnogaeth hefyd.

Cynhelir rownd derfynol Cystadleuaeth Trafodaethau Rhyngwladol y flwyddyn nesaf ym Mhrifysgol Tokyo.

Rhannu’r stori hon