Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau ar gyfer bywyd

10 Gorffennaf 2018

Portrait of intern

Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn prosiect cyffrous newydd sy'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i fenywod Du a lleiafrifol ethnig (BME) yng Nghymru.

Fel rhan o leoliad gwaith sydd ar waith, mae Arafa Ali, ffoadur o Sudan, wedi dysgu beth sydd ei angen i ddod yn aelod o Staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn Ysgol Busnes Caerdydd drwy brosiect Sgiliau ar gyfer Bywyd.

Daeth Arafa i'r DU wyth mlynedd yn ôl gyda'i theulu, ac mae wedi troi ei llaw at wasanaethau cwsmeriaid, gweinyddu a chymorth cyfleusterau dros y tri mis diwethaf, gan gysgodi Dirprwy Reolwr Ysgol i geisio gwella ei chyfleoedd gwaith.

Yn ogystal â chynorthwyo gyda rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd, mae hefyd wedi cael cyfle i dreulio amser gydag adrannau eraill, gan gynnwys y dderbynfa, Tîm y Diwrnod Agored a'r ganolfan Israddedigion.

Dywedodd Arafa: “Rwyf i bob amser wedi dymuno mynd i'r brifysgol, ac un diwrnod rwy'n gobeithio astudio nyrsio. Ond mae'r cyfle i gael profiad gwaith mewn lle fel Prifysgol Caerdydd wedi fy ngwneud i mor hapus.”

Ychwanegodd Julia McCarthy, Dirprwy Reolwr yr Ysgol yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Bu'n bleser mentora Arafa ar ei lleoliad gwaith Sgiliau ar gyfer Bywyd...”

“Mae ei hawydd i ddysgu ac amsugno sgiliau a phrosesau newydd yn golygu ei bod wedi cwblhau'r holl dasgau gyda brwdfrydedd ac mae wedi bod mor braf ei gweld yn tyfu drwy'r lleoliad gwaith.”

Julia McCarthy Deputy School Manager

Dan arweiniad Oxfam Cymru a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon, mae Sgiliau ar gyfer Bywyd yn cynorthwyo menywod BME i ddysgu sgiliau, cael profiad a magu'r hyder sydd ei angen i ddod o hyd i waith boddhaol ac adeiladu bywyd yn rhydd rhag tlodi.

Dywedodd Arafa, sydd â phum merch: naw, wyth, pump oed a gefeilliaid sy'n 17 mis: "Pan rwy'n casglu fy mhlant o'r ysgol, rwy'n dweud wrth fy ffrindiau 'Rwy'n gweithio yn y Brifysgol' ac yn teimlo mor falch. Rwy'n dweud wrthyn nhw pa mor dda mae wedi bod ar gyfer datblygu sgiliau gwaith gwahanol, a hefyd cynyddu fy hyder.

“Ers dod i'r DU, prin yw'r cyfleoedd rydyn ni wedi'u cael i weithio, sydd wedi bod yn anodd iawn i fy nheulu...”

“Rwyf i'n fam ac mae edrych ar ôl fy mhlant a gofalu amdanyn nhw'n hollbwysig i fi. Ond mae'r profiadau newydd hyn wedi fy nghyffroi i ac eraill ar Sgiliau ar gyfer Bywyd. Hoffwn i pe bai rhywbeth tebyg ar gael i fy ngŵr oherwydd mae wedi fy helpu i feddwl am beth arall y gallwn fod, yn hytrach na mam yn unig.”

Arafa Ali

Mae lleoliad gwaith Arafa yn un enghraifft o gyfres o fentrau cenhadaeth ddinesig a ddatblygwyd ar draws y Brifysgol i gynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.

Meddai’r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae lleoliad gwaith rhagorol Arafa'n amlygu ymrwymiad y Brifysgol i greu cyfleoedd i gymunedau Cymru a'r byd...”

“Ac mae gennym hanes o wneud hynny'n union yn Ysgol Busnes Caerdydd. Boed yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i adeiladu cyfleoedd gyrfa ochr yn ochr ag Enactus, neu ymdrin â materion byd-eang fel grymuso menywod yn economaidd drwy ein Rhwydwaith Arloesi Cyfrifol, mae gwerth cyhoeddus yn greiddiol i'n gweithgaredd.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Esbonia Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru, sut mae'r lleoliadau gwaith Sgiliau ar gyfer Bywyd yn cyd-fynd â nodau ehangach y sefydliad wrth ddatblygu gwaith boddhaol. Dywedodd: “Yng Nghymru, mae menywod yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi na dynion. Fe wyddom hefyd fod menywod yn wynebu rhwystrau gwahanol ac ychwanegol pan ddaw'n fater o geisio gwaith boddhaol, a dyna pam rydym ni'n cydweithio gyda'r llywodraeth ac amrywiol bartneriaid i helpu i siapio economi Cymru a'r gymdeithas ehangach i sicrhau bod menywod yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd â dynion...”

“Mae prosiect Sgiliau ar gyfer Bywyd wedi dangos bod menywod fel Arafa, gyda chymorth penodol, yn gallu cael eu grymuso i gynyddu eu hyder a datblygu sgiliau a all eu helpu i ffynnu yn y gweithle ac yn y gymuned ehangach. Mae'n bryd i bob menyw deimlo bod ganddi ddewisiadau a phŵer dros ei bywyd, a gallu symud i waith boddhaol ac allan o dlodi.”

Kirsty Davies-Warner Pennaeth Oxfam Cymru

Mae prosiect Sgiliau ar gyfer Bywyd yn cefnogi'r Rhaglen Cymunedau dros Waith ac fe'i cyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.