Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin cariad at wyddoniaeth

4 Gorffennaf 2018

Students participating in Full STEAM Ahead

Mae tua 100 o fyfyrwyr ysgolion a cholegau wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ym Mhrifysgol Caerdydd a gynlluniwyd i feithrin eu diddordeb mewn gwyddoniaeth.

Ymunodd myfyrwyr a staff o Ysgol Gyfun Caerllion ger Casnewydd a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, mewn gweithdai ymarferol o argraffu 3D i gyflawni llawdriniaeth ffug ar yr ymennydd ar jeli.

Roedd y gweithgareddau Full STEAM Ahead, yn ymwneud â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg. Staff a myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd a drefnodd y gweithgareddau.

Dyma’r gweithdai a gynhaliwyd yn y Brifysgol:

  • Llawdriniaeth ffug ar yr ymennydd gyda Dr Emma Yhnell – myfyrwyr yn cyflawni llawdriniaeth yr ymennydd ar jeli
  • Argraffu 3D gyda Alex Safar – myfyrwyr yn dylunio ac argraffu rhywbeth i’w hatgoffa am y gweithdy
  • ChemCoding gyda Luke Smallman – myfyrwyr yn defnyddio côd cyfrifiadur i feithrin a defnyddio sbectromedr Lego (offeryn sy'n mesur mathau o ymbelydredd a thonfedd)
  • Damcaniaeth gêm gyda Nikoleta Glynatsi – modelodd myfyrwyr sut mae chwaraewyr yn rhyngweithio mewn gêm

Dywedodd Scott Morgan, o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Roedd hi'n wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn dod ynghyd am ddiwrnod o hwyl yng ngweithdai STEAM. Rwy'n gobeithio fod y gweithgareddau wedi agor meddyliau'r myfyrwyr i'r ystod wych o bosibiliadau gyda'r pynciau hyn. Hoffai'r trefnwyr ddiolch yn arbennig i Carl Clement o Emotion Robotics a ddarparodd ginio i'r myfyrwyr oedd yn bresennol ar y diwrnod."

Dywedodd Stuart Ball, Pennaeth Mathemateg yn Ysgol Gyfun Caerllion: "Cafodd ein myfyrwyr brofiad rhagorol yn Full STEAM Ahead. Drwy gydol y dydd fe wnaeth ein myfyrwyr ymgysylltu'n gadarnhaol mewn llawer o weithgareddau gwahanol. Mae'r ddamcaniaeth y tu ôl i'r gêm Cyfyng-gyngor y Carcharwr wedi troi'n drafodaeth boeth ymhlith ein myfyrwyr. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Scott i ddatblygu rhagor o gyfleoedd STEM yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon

Darllenwch mwy am ein prosiectau trawsffurfio cymunedau sy'n dangos ein hymrwymiad i wella lles cymunedau yng Nghymru a thu hwnt..