Ewch i’r prif gynnwys

Cost creu gwarchodfeydd i’r panda mawr yn fychan iawn o gymharu â’r incwm maen nhw’n ei gynhyrchu

2 Gorffennaf 2018

Giant panda

Mae gwarchod y panda mawr a’i gynefin yn cynhyrchu hyd at 27 gwaith cost ei gadwraeth, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd yr Athro Mike Bruford o Brifysgol Caerdydd yn rhan o'r tîm o ymchwilwyr a fu’n gweithio i asesu’r manteision ariannol i fodau dynol a ddaeth yn sgîl gwarchodfeydd natur y panda mawr yn Tsieina. Maent yn amcangyfrif y gallai cyfanswm y gwerth fod yn gymaint â US$6.9bn y flwyddyn.

Heddiw, mae 67 o warchodfeydd i’r panda yn Tsieina, sy'n cwmpasu 54.7% o’u cynefin. Mae sawl defnydd i’r ardaloedd gwarchodedig hyn. Mae ffermwyr lleol yn defnyddio'r tir i anifeiliaid bori ac i dyfu cnydau. Canfu'r ymchwil fod ffermwyr oedd yn byw'n agos at warchodfeydd yn ennill 8% yn fwy bob blwyddyn na ffermwyr eraill.  Mae cynnal ecosystemau ffyniannus hefyd yn golygu llai o gostau amgylcheddol; mae'n lleihau perygl llifogydd ac yn golygu bod y pridd yn cadw ei faetholion.

Mae’r panda yn arwyddlun i rywogaethau sydd mewn perygl ym mhob man, ac mae ganddo apêl ryngwladol eang. Bu’r tîm yn asesu gwerth diwylliannol y gwarchodfeydd, er enghraifft y fasnach sy’n dod yn sgîl twristiaid sy'n ymweld â Tsieina a’r nifer enfawr i gynhyrchion masnachol sy'n dwyn delwedd y panda ac sy’n cael eu gwerthu ar draws y byd.

Hefyd, dangosodd y ffigurau, a gasglwyd ar gyfer pob degawd o 1980 i 2010, gynnydd cyson yn yr incwm wrth i nifer y pandas godi.

Dywedodd yr Athro Bruford, o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ac Ysgol y Biowyddorau: "Mae rhai yn dadlau bod gwario arian a threulio amser ar achub rhywogaethau sydd mewn perygl yn wastraffus. Ond mae gwerth ehangach y rhywogaethau 'blaenllaw' hyn yn amlwg o'r gwaith ymchwil hwn.

Bernir bod ymdrechion i hybu niferoedd y panda wedi bod yn llwyddiannus, gyda statws cadwraeth y rhywogaethau yn cael ei newid yn ddiweddar gan yr IUCN o 'mewn perygl' i 'bregus' wrth i’r niferoedd barhau i godi.  Mae amddiffyn eu cynefinoedd hefyd wedi helpu amrywiaeth eang o anifeiliaid eraill, gan fod bioamrywiaeth y gwarchodfeydd hyn ymhlith yr uchaf yn y byd.

Mae ymchwilwyr yn galw am ehangu ymdrechion cadwraeth.

"Mae’r panda wedi dod yn ôl o ddibyn difodiant ond nid yw hynny'n golygu na ellir gwneud mwy i sicrhau ei fod yn ffynnu," meddai’r Athro Bruford. "Mae ein cyfrifiadau yn cyflwyno achos ariannol cryf dros gynyddu’r ardaloedd lle ceir y gwarchodfeydd hyn. Mae’r panda mawr yn enghraifft ardderchog o sut gall cadwraeth fod o fudd i bawb."

Mae The Value of Ecosystem Services from Giant Panda Reserves wedi’i gyhoeddi yn Current Biology.

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages