Ewch i’r prif gynnwys

Enillydd Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn Cymru

2 Gorffennaf 2018

Book of the year

Mae Hummingbird, nofel ddiweddaraf darlithydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Tristan Hughes, wedi ennill gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn Cymru 2018. 

Noddir y wobr gan Adolygiad Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru. Caiff y wobr ei chyflwyno i’r llyfr gyda'r nifer uchaf o bleidleisiau gan y cyhoedd yn y tri chategori: barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol greadigol yn y gwobrau hyn sy’n cael eu hystyried yn uchafbwynt llenyddol y flwyddyn yng Nghymru.

Roedd y llyfr yn un o dri a enwebwyd ar gyfer y categori Gwobr Ffuglen, ochr yn ochr â Light Switches Are My Kryptonite gan Crystal Jeans, a Bad Ideas/Chemicals gan Lloyd Markham.  

Ar ran panel y beirniaid, dywedodd y darlledwr a’r awdur Carolyn Hitt: "I mi, mae’r broses o feirniadu wedi bod yn her ac yn ysbrydoliaeth i’r un graddau. Bu'n rhaid i ni fod yn ddidrugaredd wrth ddewis pa lyfrau oedd yn dod i’r brig. Fodd bynnag, dyma restr fer sy'n adlewyrchu amrywiaeth ac ansawdd y gwaith ysgrifennu Saesneg gan awduron yng Nghymru – o’r rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf ac yn eu hanterth, i enwau newydd cyffrous sy’n torri tir newydd."

Yn ei nofel ddiweddaraf, mae Hughes yn dychwelyd i gyfnod ei ieuenctid yn y stori fyw a barddonol hon am farwolaeth, bywyd a'r newidiadau a ddaw yn eu sgîl.  Lleolir Hummingbird yn harddwch llym ac anfaddeugar coedwigoedd gogledd Ontario, ac mae’n stori emosiynol am golled, absenoldeb ac achubiaeth.

Dywedodd Tristan, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: "Rydw i wrth fy modd ac yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr hon.  Mae cael eich cydnabod am eich gwaith yn deimlad anhygoel."

Y wobr hon yw'r diweddaraf o lu o gydnabyddiaethau sydd wedi dod i ran yr awdur o Ganada. Yn gynharach eleni, enillodd Hummingbird wobr Stanford Edward am Ffuglen gydag Ymdeimlad o Le.  

Fis diwethaf, enillodd ei stori fer, 'Up Here', wobr glodfawr lenyddol Americanaidd O. Henry, a ddyfernir yn flynyddol i'r 20 stori fer orau a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau a Chanada.  Bydd y stori, a ymddangosodd yng nghylchgrawn llenyddol Ploughshares yn wreiddiol, yn cael ei chyhoeddi yr hydref hwn yn rhan o ddetholiad Straeon Gwobr O. Henry 2018. 

Cafodd Tristan Hughes ei eni yng ngogledd Ontario a'i fagu yn Ynys Môn, ac mae’n parhau i addysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw awdur y nofelau Eye Lake, Revenant, a Send My Cold Bones Home, yn ogystal â chasgliad o straeon byrion, The Tower, ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Stori Fer Rhys Davies.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, a weinyddir gan Lenyddiaeth Cymru, yn cael ei chyflwyno i'r gwaith gorau yn yr iaith Gymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn flaenorol ym maes Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Creadigol.

Addysgir Ysgrifennu Creadigol ar bob lefel, o BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol hyd at Radd Meistr a Doethuriaeth yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.