Ewch i’r prif gynnwys

Ethol Athro i gymdeithas academaidd rhyngwladol nodedig

28 Mehefin 2018

Molecules

Mae’r Athro Peter Knowles wedi’i ethol i sefydliad nodedig Academi Ryngwladol Gwyddoniaeth Folecwlar Cwantwm (IAQMS).

Sefydlwyd IAQMS ym Menton, Ffrainc ym 1967, o ganlyniad i ysbrydoliaeth a chefnogaeth Louis de Broglie i roi fforwm ar gyfer cydweithredu rhyngwladol mewn ymchwil ym maes eang gwyddoniaeth moleciwlaidd cwantwm.  Mae’r Academi’n trefnu cyfres o Gyngresau Rhyngwladol ym maes Cemeg Cwantwm, ac yn dyfarnu medal flynyddol i ymchwilydd ifanc rhagorol.  Mae 8 o enillwyr gwobrau Nobel ymhlith y 166 o wyddonwyr a etholwyd yn aelodau ers ei sefydlu.

Caiff aelodau o’r Academi eu dewis o blith gwyddonwyr ym mhob gwlad, ar draws yr ystod o wyddorau moleciwlaidd cwantwm. Mae Knowles – sy’n Athro Cemeg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Caerdydd – yn cynnal ymchwil ym maes theori a chyfrifo strwythur electronig moleciwlau. Mae wedi cyfrannu at ddyfeisio llawer o’r dulliau cyfrifo sydd wedi trawsnewid Cemeg, ac ef yw prif awdur meddalwedd Molpro sy’n cael ei defnyddio’n eang ym maes academaidd a diwydiant.

Yn ôl yr Athro Damien Murphy, Pennaeth yr Ysgol Cemeg “Mae hyn yn dyst ac yn gydnabyddiaeth wych gan y gymuned wyddoniaeth foleciwlaidd ryngwladol o gyfraniadau gwyddonol eithriadol Peter yn y maes hwn. Ar ran yr ysgol, llongyfarchiadau i Peter ar dderbyn yr anrhydedd hon”.

Rhannu’r stori hon