Ewch i’r prif gynnwys

Hwyl fawr i hynny oll? O Lenin i Putin

27 Mehefin 2018

 Statue of Lenin outside the Luzhniki Olympic Stadium, Moscow.  Statue of Lenin outside the Luzhniki Olympic Stadium, Moscow.
Statue of Lenin outside the Luzhniki Olympic Stadium, Moscow.

Arweinwyr blaenllaw Rwsia ddoe a heddiw o dan y chwyddwydr yn Russian Revolution Centenary gan un o haneswyr Prifysgol Caerdydd

Mae dwy erthygl o bwys gan un o haneswyr Prifysgol Caerdydd yn ystyried gwaddol arweinydd y Chwyldro a sut mae arweinwyr blaenllaw’r oes bresennol yn ceisio diffinio Chwyldro Rwsia ganrif yn ddiweddarach.

Cyhoeddir yr erthyglau ychydig cyn canmlwyddiant llofruddiaeth y Tsar a’i deulu a’r foment pan gafodd dynion a menywod Rwsia hawliau cyfartal o dan gyfansoddiad Gweriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia.

Yn rhifyn y mis hwn o History Today, mae Dr James Ryan yn dadlau na ddylid cyfyngu Chwyldro Rwsia i 1917, ond yn hytrach bod gwaddol ei arweinydd a’i brif ideolegwr yn fyw o hyd yn sgîl ei holl gyferbyniadau ofnadwy.  Goodbye Lenin? A Centenary Perspective yw stori glawr y cylchgrawn hanes nodedig.

Mae gan yr academydd erthygl hefyd yn rhifyn mis Mehefin o’r cyfnodolyn Revolutionary Russia, ac mae wedi creu cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a  Phrifysgol Academaidd Wladol y Dyniaethau ym Moscow sy’n sefydliad uchel iawn ei fri yn Rwsia.

Yn 'The Politics of National History: Russia's Ruling Elite and the Centenary of 1917' mae Dr Ryan yn dadansoddi’r modd y mae arweinwyr blaenllaw Rwsia (gan gynnwys yr Arlywydd Putin) wedi mynd ati i goffáu canmlwyddiant Chwyldro Rwsia.

Mae’r erthygl – sy’n ymddangos yn yr unig gyfnodolyn academaidd arbenigol Saesneg sy’n ymwneud yn gyfan gwbl ag astudio hanes Rwsia oddeutu 1880-1930 – yn trin a thrafod beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am feddylfryd y chwaraewyr allweddol, pwysigrwydd hanes fel ffordd o lunio hunaniaeth genedlaethol, a’r modd y mae Rwsia heddiw yn helpu i ffurfio cynrychiolaeth o orffennol Sofietaidd dadleuol.

Mae awdur Lenin's Terror: The Ideological Origins of Early Soviet State Violence,

Dr James Ryan, yn gweithio ar hyn o bryd ar An Intellectual History of Soviet State Violence, 1918–1941.

Rhannu’r stori hon