Ewch i’r prif gynnwys

Angen ‘gweithredu ar frys’ yn sgîl yr argyfwng diogelwch dŵr

28 Mehefin 2018

water

Mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael ag argyfwng diogelwch dŵr byd-eang, sydd ar gynnydd, yn ôl cyfarwyddwr consortiwm ymchwil dŵr mwyaf y DU ar drothwy fforwm pwysig.

Yn ôl Dr Isabelle Durance – cyfarwyddwr Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4 – mae heriau digyffelyb yn gosod hyd yn oed mwy o straen ar adnoddau dŵr y byd.

Bydd diwydiant, llywodraeth ac elusennau’n ymuno ag ymchwilwyr i fynd i’r afael â heriau diogelwch dŵr rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang mewn digwyddiad ym Mryste ar 28 Mehefin 2018.

Trefnwyd Water in a Changing World gan Gynghrair Diogelwch Dŵr GW4, un o’r rhai mwyaf o’i math yn y byd sydd â phortffolio ymchwil o £50m a dros 200 o ymchwilwyr dŵr.

Mae'r gwaith yn rhan o Gynghrair ehangach GW4, sy’n dod â phedair o’r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol ymhlith prifysgolion y DU ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.

Yn ôl Dr Durance, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Mae’r hyn oedd eisoes yn sefyllfa ansicr iawn wedi troi i fod yn un ddifrifol, oherwydd heriau megis twf yn y boblogaeth a newid yn yr hinsawdd.

“A dweud y gwir, yn ôl Fforwm Economaidd y Byd, diogelwch dŵr yw’r perygl hirdymor mwyaf y mae’r byd yn ei wynebu dros y degawd nesaf.

Dywedodd Dr Durance nad oedd y DU yn ddiogel rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd a’i bod yn wynebu ei heriau diogelwch dŵr ei hun.

“Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, mae’r amser y mae’n ei gymryd i ail-lenwi cyflenwadau dŵr – ynghyd ag amodau tywydd newidiol a thirwedd amrywiol – yn golygu y gallem brofi prinder dŵr mewn ambell ardal, tra bod llifogydd mewn ardaloedd eraill”, meddai.

Bydd Water in a Changing World yn dod ag academyddion allweddol ar draws prifysgolion GW4 ynghyd, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol o’r diwydiant dŵr, llywodraeth, rheoleiddwyr, elusennau a noddwyr.

Bydd y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig yn llywio datblygiad rhaglen ymchwil a hyfforddiant yn y dyfodol er mwyn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu adnoddau dŵr.

Yn ôl Dr Sarah Perkins, Cyfarwyddwr Cynghrair GW4: “Mae Cynghrair GW4 yn dod ag arbenigedd ynghyd o amrywiaeth o ddisgyblaethau a sefydliadau ar draws y rhanbarth, er mwyn creu grŵp ymchwil pwerus a allai gael effaith go iawn ar yr argyfwng diogelwch dŵr byd-eang.

“Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod digon o ddŵr o’r ansawdd cywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir, ar gyfer pobl, ffermydd, busnesau a’r amgylchedd.”

Cynhelir Water in a Changing World ar 28 Mehefin 2018 yn Watershed, Bryste.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.