Ewch i’r prif gynnwys

Maer Llundain yn mabwysiadu Model Caerdydd

21 Mehefin 2018

Jonathan Shepherd

Mae Maer Llundain wedi cadarnhau bod Model Caerdydd i fynd i’r afael â thrais bellach yn cael ei ddefnyddio ar draws 29 o Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Llundain.

Fe allai defnydd o’r Model baratoi’r ffordd ar gyfer creu bwrdd atal trais ledled prifddinas Lloegr - syniad a roddwyd ar waith ym 1997 ym mhrifddinas Cymru gan ddyfeisiwr y Model.

Cafodd y Model ei greu gan yr Athro Jonathan Shepherd o Brifysgol Caerdydd, ac mae’n llenwi bylchau mawr yng ngwybodaeth yr heddlu. Gwneir hyn drwy gasglu gwybodaeth ddienw mewn ysbytai gan bobl a anafwyd mewn achosion o drais nad yw’r heddlu wedi cael gwybod amdanynt.

Caiff y data ei rannu ymhlith yr heddlu, cynghorau ac asiantaethau trwyddedu i adnabod mannau trais poblogaidd; ar strydoedd y ddinas, mewn adeiladau trwyddedig, parciau, ysgolion a lleoliadau eraill.

Mae Model Caerdydd wedi’i roi ar waith ledled y byd, o’r Unol Daleithiau i Awstralia, ac wedi arwain at newidiadau megis patrolau heddlu wedi’u targedu, gwydrau polycarbonad mewn bariau, gosod CCTV ac ardaloedd i gerddwyr mewn mannau adloniant.

Mewn llythyr diweddar at yr Athro Shepherd, ysgrifennodd Sadiq Khan, Maer Llundain: “Diolch am eich geiriau caredig am y cynllun Rhannu Gwybodaeth i Fynd i’r Afael â Thrais (ISTV) sy’n rhan hollbwysig o fy ymgyrch i fynd i’r afael â thrais yn Llundain.

“Byddai’n bleser gan Uwch-swyddogion Swyddfa ar gyfer Plismona a Throseddau (MOPAC) gwrdd â chi i drafod eich syniadau ar fwrdd atal trais dinesig ymhellach.”

Wrth gymeradwyo’r llythyr, ychwanegodd Paul Orders, Prif Weithredwr Cyngor Dinas Caerdydd: “Mae’n dda bod Caerdydd wedi arwain ar hyn.” Gallaf weld arwyddocâd y model i Lundain a beth fydd yn ei olygu wrth ystyried defnydd ehangach o ddull Caerdydd. Mae’n hynod gyffrous.”

Mae’r Model wedi’i roi ar waith mewn dinasoedd pwysig yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys Milwaukee a Philadelphia.

Ar ôl ei fabwysiadu am y tro cyntaf ar draws Caerdydd ym 1997, fe wnaeth trais ostwng dros 40% o’i gymharu â 14 o ddinasoedd tebyg yn y DU.

Heddiw, mae tua 35 o achosion yw wythnos sy’n gysylltiedig â thrais yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty’r Brifysgol - o’i gymharu ag 80 yr wythnos 15 mlynedd yn ôl.

Mae nifer y derbyniadau mewn ysbytai yn is hefyd, yn ogystal â chostau trais i’r GIG a’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol. Yn 2007 yn unig, amcangyfrifwyd y cafodd £7m ei arbed.

https://youtu.be/_k_yeoLU2Zo

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni’n lleihau’r nifer o droseddau treisiol drwy ymchwil newydd, defnydd newydd o ddata a chydweithio gwreiddiol rhwng meddygaeth a chyfiawnder troseddol.