Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr PhD yn cael Gwobr David Douglas

20 Mehefin 2018

SWIEET logo

Mae Mazin Muhssin a Hua Xiao, myfyrwyr PhD yn yr Ysgol Peirianneg sy'n gweithio ym maes ymchwil ynni, wedi derbyn Gwobr David Douglas 2018 gan Ymddiriedolaeth Addysg Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET).
Cafodd Martin ei wobr gan Ymddiriedolwyr Pwyllgor SWIEET-2007 am ei bapur ymchwil ‘‘Dynamic Frequency Control Using Heat Pumps”. Mae'r papur yn fersiwn estynedig o waith blaenorol a gafodd wobr papur gorau yng nghynhadledd ryngwladol SST-2016 a gynhaliwyd yn Croatia. Roedd y prosiect yn cynnig ateb newydd i broblem go iawn mewn systemau pŵer. Cafwyd hyd i ganfyddiadau'r prosiect mewn cydweithrediad â'r Grid Cenedlaethol a chafodd ei gyhoeddi yn y cyfnodolion blaenllaw Journal of IEE Transaction on Power System a Journal of Applied Energy.

Cafodd ei ymchwil ei hariannu'n rhannol gan y Pwyllgor Uwch ar gyfer Datblygu Addysg yn Irac (Rhaglen-HCED). Dr Liana Cipcigan a'r Athro Nick Jenkins o'r Ysgol Peirianneg sy'n goruchwylio Mazin.

Enillodd Hua Xiao ei wobr am bapur ymchwil "Exploring an Alternative Fuel Application: Combustion Kinetics Evaluation for Gas Turbine Use”. Roedd y papur hwn yn archwilio'r posibilrwydd o gyd-losgi tanwyddau amgen megis methan/amonia i gynhyrchu pŵer. Helpodd yr astudiaeth i ddod o hyd i feysydd y mae angen rhoi mwy o sylw iddynt i reoli allyriadau a datblygu modelau fel y gellir mireinio'r broses hylosgi a'i gwneud yn fwy addas ar gyfer hylosgwyr amonia.

Mae Hua Xiao wedi trefnu i ddefnyddio ei arian i ymweld â grwpiau ymchwil perthnasol ym Mhrifysgol Jaio Tong Shanghai a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina, Sichuan, fydd yn helpu i hybu mentrau ymchwil gydweithredol â sefydliadau rhyngwladol.

Mae'r Wobr yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i gydnabod myfyrwyr sydd wedi cyflwyno ymchwil ragorol ym maes peirianneg, ac mae'n agored i beirianwyr sy'n iau na 30 oed a myfyrwyr peirianneg ôl-raddedig.

Rhannu’r stori hon