Ewch i’r prif gynnwys

Swyddog yr Economi yn croesawi Ystafell Lân £4m ICS

20 Mehefin 2018

ICS launch

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates wedi croesawu Ystafell Lân £4m Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd ar ei newydd wedd.

Aeth busnesau lleol o dde Cymru i lansiad y cyfleuster newydd, sy'n cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau i gwmnïau sy'n gweithio i ddatblygu technolegau'r unfed ganrif ar hugain.

Roedd cyfle i'r gwesteion hefyd ddysgu mwy am yr Ystafell Lân 225 metr sgwâr ar ei newydd wedd a'r rôl sydd ganddi yn cynorthwyo busnesau ar draws de Cymru fel rhan o CS Connected - clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd.

Mae Ystafell Lân ICS, yn Adeilad y Frenhines yn y Brifysgol, wedi cael gosodiadau newydd ar gost o £600,000 i wella cyflwr yr ystafell i baratoi i dderbyn offer newydd.

Ac yn ogystal ag uwchraddio'r ystafell lân, mae ICS wedi buddsoddi mewn offer newydd i greu ardal fach i alluogi cynhyrchu 6 modfedd, gyda chyfanswm o £3.3m o gefnogaeth gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a Llywodraeth Cymru drwy Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.

Bydd ICS yn gweld gwelliannau pellach, gan gynnwys gofod labordy arloesol a gallu cynyddol i gynhyrchu 8 modfedd, pan fydd yn symud i'r Cyfleuster Ymchwil Trosiadol newydd ar Heol Maendy - rhan o Gampws Arloesedd Caerdydd.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Mae Ystafell Lân y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) yn enghraifft ragorol o gyfleuster blaenllaw sy'n cael ei ddatblygu gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect yn helpu i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac atebion masnachol, gan fynd â syniadau o fainc y labordy i'n hystafelloedd bwrdd ac i loriau gwaith cwmnïau ar draws Cymru, fel bod cymunedau ledled Cymru yn elwa'n economaidd." Mae'n annog yr union fath o arloesedd a thechnoleg blaengar y mae ar Gymru ei hangen er mwyn cystadlu'n fyd-eang a ffynnu."

https://youtu.be/y6mhj9Ghydg

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: "Mae'r Sefydliad Lled-ddargluddydion Cyfansawdd (ICS) yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf i helpu ymchwilwyr a diwydiant i weithio gyda'i gilydd i drosi'r wyddoniaeth yn amgylchedd cynhyrchu masnachol ac mae'r ystafell lân yn rhan hanfodol o hynny. Mae llawer o ddatblygiadau yn ein bywydau bob dydd yn dibynnu ar dechnoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae cyllid EPSRC yn caniatáu i ICS a'i gwmnïau partner barhau i ddatblygu technoleg sy'n galluogi datblygiadau newydd, fel cerbydau hunanyrru a chyfathrebu 5G."

Mae ICS yn troi ei ymchwil labordy'n gynhyrchion a gwasanaethau drwy weithio gyda phartneriaid masnachol i arwain ar y gwaith o ddatblygu un o dechnolegau galluogi allweddol y byd ar y cyd â’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – cyd-fenter busnes gyda IQE yng Nghaerdydd sy'n ffurfio rhan o CS Connected.

Dywedodd Dr Angela Sobiesierski, rheolwr yr ystafell lân: "Mae'r uwchraddio a'r offer newydd wedi trawsnewid ystafell lân ICS yn gyfleuster cryf, addas i'r diben sydd mewn sefyllfa dda i fodloni gofynion prosiectau ymchwil â sail academaidd a hefyd bodloni gofynion ein cwsmeriaid masnachol a'n partneriaid prosiect."

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.