Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnodd yr Athro Haley Gomez MBE

15 Mehefin 2018

Athro Haley Gomez
Athro Haley Gomez

Mae’r Athro Haley Gomez o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi derbyn MBE am ei gwasanaethau i astroffiseg a seryddiaeth ac, yn bennaf oll, am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a seryddwyr drwy gyfathrebu ei hymchwil â chynulleidfa eang.

Mae’r Athro Gomez wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd ers iddi astudio ei gradd israddedig yma, a graddiodd yn 2001. Mae ei hymchwil wyddonol yn cynnwys astudio sut mae llwch cosmig yn ffurfio, a’i briodweddau. Dyma’r deunydd solet a ffurfir mewn sêr ac mae planedau gan gynnwys y Ddaear wedi’u ffurfio ohono. Ar gyfer yr ymchwil hon, mae'n defnyddio arsyllfeydd modern ar y tir yn ogystal â’r gofod, ac mae’n cydweithio â seryddwyr blaenllaw ledled y byd. Mae hi’n angerddol ynghylch rhoi gwybod i bobl ifanc a'r cyhoedd yn ehangach am wyddoniaeth, a hi yw Pennaeth Ymgysylltu Cyhoeddus ar gyfer yr Ysgol.

Roedd yr Athro Gomez wrth ei bodd pan gafodd wybod ei bod wedi cael yr anrhydedd, a dywedodd: “Roedd yn newyddion hynod annisgwyl! Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda thîm anhygoel o wyddonwyr. Teimlaf fy mod wedi derbyn braint wirioneddol, ond rwyf hefyd mor falch ei bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gwyddonwyr yn mynd i gymunedau ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd.”

Yn ogystal â chymryd rhan mewn ymchwil arloesol, mae’r Athro Gomez hefyd wedi ymrwymo i ysbrydoli pobl ifanc a’r rheini nad ydynt yn ffisegwyr i ddysgu rhagor am y byd o’u cwmpas. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn annog holl fyfyrwyr yr Ysgol, beth bynnag fo’u cefndir, i astudio pynciau STEM ac ystyried gyrfaoedd ym maes STEM. Fel Pennaeth Ymgysylltu Cyhoeddus, mae hi'n ymwneud â dau brosiect allgymorth mawr ar y cyd â’i chymheiriaid yn yr Ysgol.

Yn ôl Yr Athro Matt Griffin, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Llongyfarchiadau mawr i Haley oddi wrth ei holl gydweithwyr yn yr Ysgol. Rydym yn falch iawn o glywed ei bod wedi cael yr anrhydedd hon am ei chyfraniadau nodedig ym maes seryddiaeth a’i holl waith wrth gyfathrebu cynnwrf a gwerth gwyddoniaeth i’r cyhoedd, yn enwedig pobl ifanc.”

Ychwanegodd yr Athro Steve Eales, Pennaeth y Grŵp Seryddiaeth: “Mae Haley yr un mor ymrwymedig i ymchwil seryddol ag ydyw i sôn wrth y cyhoedd, sy'n talu am y cyfan, am yr hyn a wnawn. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl dros y blynyddoedd, o blant mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, i’w chydweithwyr yn y grŵp Seryddiaeth.”

Fel tystiolaeth o’r hyn a gyflawnwyd ganddi o ran gweithgareddau ymchwil ac allgymorth, mae’r Athro Gomez wedi ennill nifer o ddyfarniadau gan gynnwys Dyfarniad Fowler y Gymdeithas Seryddol Frenhinol am gyflawniad cynnar mewn gyrfa yn 2015, a dyfarniad am yr unigolyn mwyaf ysbrydoledig yn y categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Ngwobrau Ysbrydoli Cymru 2014.

Rhannu’r stori hon