Ewch i’r prif gynnwys

Deall epilepsi pellter meddwl

11 Mehefin 2018

Brain waves

Mae ymchwil o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod gweithgarwch yn yr ymennydd sy'n sail i epilepsi pellter meddwl, gan gynnig gobaith newydd y bydd therapïau arloesol yn cael eu datblygu ar gyfer y clefyd hwn sy'n anablu.

Mae epilepsi pellter meddwl – y math mwyaf cyffredin o epilepsi ymhlith plant a'r glasoed – yn effeithio ar dros ddeg y cant o'r holl blant a'r glasoed sydd â'r cyflwr, gan achosi pyliau o ddiffyg ymwybyddiaeth, sy'n aml yn cael eu camgymryd am bensynnu. Mae diffyg dealltwriaeth o hyd o'r gweithgarwch ymennydd sy'n achosi'r math hwn o epilepsi, ond mae ymchwil ddiweddar wedi arsylwi ar y gweithgarwch hwn am y tro cyntaf.

Cynhaliodd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr dan arweiniad yr Athro Vincenzo Crunelli, o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, ymchwiliad i'r math o weithgarwch trydanol sy'n digwydd yn yr ymennydd yn ystod ymosodiad pellter meddwl.

Dywedodd yr Athro Crunelli: “Er bod gennym ddiffyg dealltwriaeth o hyd o'r hyn sy'n achosi epilepsi pellter meddwl, rydym yn gwybod os ydym yn monitro gweithgarwch trydanol yr ymennydd yn ystod ymosodiad pellter meddwl y byddwn yn gweld gweithgarwch ar ei lefel uchaf o'r enw dadwefriadau pigau a thonnau.

"Rydym hefyd yn gwybod bod gweithgarwch syncronaidd mewn rhan o'r ymennydd o'r enw'r rhwydwaith thalamagortigol, sydd wedi'i drefnu mewn cylch adborth, yn sail i ymddangosiad y dadwefriadau pigau-tonnau hyn.

"Ond mae cryn ddadlau ynglŷn â'r berthynas rhwng celloedd yr ymennydd yn y cylch hwn, a sut mae'r berthynas yn arwain at y gweithgarwch ymennydd mewn ymosodiadau pellter meddwl."

Fe wnaeth y grŵp o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Malta, Centre National de la Recherche Scientifique a Phrifysgol Szeged yn Hwngari, recordio gweithgarwch yr ymennydd rhwng sawl gwahanol ran o'r ymennydd yn ystod ymosodiadau pellter meddwl mewn modelau epilepsi am y tro cyntaf. Roedd hyn yn eu galluogi i arsylwi ar y berthynas rhwng gwahanol rannau o'r ymennydd yn ystod ymosodiad pellter meddwl, a chanfu'r tîm fod hyn yn chwarae rhan ym mhresenoldeb y dadwefriadau pigau a thonnau.

Ychwanegodd yr Athro Crunelli: "Fe wnaethom ddarganfod bod gweithgarwch y celloedd ymennydd thalamagortigol wedi eu cydamseru gan rannau eraill o'r ymennydd, gan gynyddu gweithgarwch wrth gael cyfarwyddiadau gan y cortecs a lleihau gweithgarwch ar ôl cael cyfarwyddiadau gan ran o'r ymennydd o'r enw'r niwclews rhwydol thalamig.

"Fe wnaethom ddarganfod hefyd, yn wahanol i'r hyn roeddem yn ei feddwl yn flaenorol, nid yw nodweddion y celloedd yn y cylch thalamogortigol yn cyfrannu at ddatblygiad y dadwefriadau pigau a thonnau.

"Mae'r ymchwil newydd hon yn hanfodol er mwyn datblygu therapïau arloesol ar gyfer y clefyd andwyol hwn i blant a'r glasoed."

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil