Ewch i’r prif gynnwys

Tîm Mannau Cynaliadwy'n teithio i Tsieina i nodi dengmlwyddiant daeargryn dinistriol

25 Mai 2018

Image of a landslip after earthquake

Teithiodd yr Athro Terry Marsden, Dr Tristram Hales a Dr Jing Ran o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy i Tsieina i nodi dengmlwyddiant Daeargryn dinistriol Wenchuan a chyflwyno mewn dwy gynhadledd fawr yn Chengdu.

Cynhaliwyd cynhadledd 12 Mai, 2018 i nodi dengmlwyddiant Daeargryn Wenchuan Mw 7.8. Ers y daeargryn, cafwyd nifer fawr o dirlithriadau peryglus a elwir yn ffrydiau rwbel; tirlithriadau hylifol sy'n symud yn gyflym ar gannoedd o gilometrau'r awr. Mae'n anodd eu rhagweld ac maent yn achosi difrod sylweddol i adeiladau, a gallant achosi marwolaethau ychwanegol.

Cyflwynodd y grŵp waith â'r nod o ddeall y mecanweithiau sylfaenol sy'n achosi'r ffrydiau rwbel a sut maent yn effeithio ar gymunedau sy'n fregus yn sgil y daeargryn. Bydd y gwaith yn arwain at reoli risg yn well yn y cymunedau hyn.

Ar 19 Mai teithiodd y grŵp i Xian yn Shaanxi i gyfarfod â gwyddonydd o Tsieina ac Iran ym Mhrifysgol Chang’an. Mae'r ardal hon ar ben draw hanesyddol y Ffordd Sidan, ac mae ar hyn o bryd yn cael ei datblygu’n sylweddol fel rhan o’r polisi "Un Llain, Un Ffordd". Diben y cyfarfod oedd trafod prosiectau cydweithredol yn y gobaith o adeiladu cymunedau gwydn a chynaliadwy yn y tirweddau cras a lled-gras hyn.

Mae prosiect ymchwil Mannau Cynaliadwy ar Wydnwch yn wyneb risg a achosir gan ddaeargryn yn Tsieina (REACH) yn ceisio deall gallu cymunedau i 'fownsio'n ôl' o'r peryglon di-baid a pharhaus sy’n dilyn daeargryn. Rhagor am y prosiect ymchwil.

Image of Jing Ran presenting

Rhannu’r stori hon