Ewch i’r prif gynnwys

Pysgodfeydd mwyaf y byd yn cael eu cefnogi gan ddolydd morwellt

22 Mai 2018

seagrass

Mae ymchwil wyddonol, o dan arweiniad Dr Richard Unsworth ym Mhrifysgol Abertawe – ac ar y cyd â Dr Leanne Cullen-Unsworth o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy – wedi rhoi’r dystiolaeth fyd-eang feintiol gyntaf ynghylch rôl bwysig dolydd morwellt wrth gefnogi cynhyrchiant pysgodfeydd ar draws y byd.

Mae’r astudiaeth yn rhoi tystiolaeth bod un o bob bump o bysgodfeydd mwyaf y byd – megis Atlantic Cod a Walleye Pollock – yn dibynnu ar ddolydd morwellt iach. Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos cynifer yw’r achosion o bysgota sy’n gysylltiedig â morwellt ar draws y byd.

Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd gyda Dr Lina Mtwana Nordlund ym Mhrifysgol Stockholm, yn dangos – am y tro cyntaf – y dylid cydnabod morwellt, a’u rheoli er mwyn cynnal ar eu rôl yng nghynhyrchiant pysgodfeydd ar draws y byd a manteisio arnynt i'r eithaf.

Planhigion blodeuol morol yw morwellt sy'n ffurfio dolydd helaeth mewn moroedd bas ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica. Mae dosbarthiad y morwellt, o’r dyfnder rhynglanwol i hyd at tua 60m mewn dyfroedd clir, yn golygu bod dolydd morwellt yn gynefin pysgota sy’n rhwydd i ymelwa arnynt.

Yn ôl Dr Richard Unsworth o adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe: “Mae dolydd morwellt yn cefnogi cynhyrchiant pysgodfeydd ar draws y byd drwy ddarparu cynefin feithrinfa ar gyfer stociau pysgod masnachol megis corgimychiaid teigr, cregyn tro, penfras yr Iwerydd a spinefoot smotiau gwyn.”

Roedd erthygl yr ymchwil, Seagrass meadows support global fisheries production, a gyhoeddwyd yn Conservation Letters Open Access – yn edrych ar y cysylltiad rhwng morwellt a physgodfeydd a’r angen am ddull integredig o ran eu rheoli ar lefel leol, rhanbarthol a rhyngwladol. Mae'r ymchwil yn cyflwyno cyfres o arsylwadau polisi perthnasol ac argymhellion sy'n cydnabod rôl morwellt mewn pysgodfeydd ar draws y byd.

Mae’r ymchwil hwn yn tynnu sylw at yr angen i ymestyn ymchwil i edrych ar gysylltiad cynefinoedd meithrinfeydd â stociau aeddfed o bysgod y gellir ymelwa arnynt. Mae angen i strategaethau rhyngwladol ar raddfa fawr – megis Polisi Pysgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd – gydnabod arwyddocâd dolydd morwellt (a chynefinoedd eraill) fel tiroedd meithrinfeydd y caiff pysgodfeydd alltraeth ddwyn stoc ohonynt, meddai Dr Unsworth.

Mae dolydd morwellt yn cynnig adnoddau pysgodfeydd y gellir ymelwa’n uniongyrchol ohonynt gan bysgodfeydd cynhaliaeth graddfa fach a chrefftwrol – yn ogystal â mentrau masnachol ar raddfa fawr – ond mewn sawl rhan o’r byd, mae pysgodfeydd sydd wedi’u lleoli wrth forwellt yn aml heb eu cofnodi na’u rheoleiddio, ac mae angen gwneud mwy i gofnodi’r ffynhonnell hanfodol hon, yn ôl y cyd-awdur Dr Nordlund.

Yn ôl Dr Unsworth: “Mae dosbarthiad morwellt arfordirol yn golygu eu bod yn agored i nifer fawr o fygythiadau o’r tir a’r môr megis dŵr ffo tirol, datblygu arfordirol, difrod cychod a threillio. Mae morwellt yn dirywio’n gyflym ar raddfa fyd-eang, ac mewn achosion lle chollir morwellt, ceir tystiolaeth gref ar draws y byd bod pysgodfeydd a’u stociau yn aml yn cael eu peryglu, gan achosi canlyniadau negyddol dros ben i’r economi. Er mwyn newid, mae’n rhaid i ymwybyddiaeth o rôl morwellt yng nghynhyrchiant pysgodfeydd ar draws y byd ennill ei phlwyf ym maes polisi. Rydym yn credu’n gryf bod angen rheoli morwellt mewn modd a dargedir er mwyn cynnal eu rôl – a manteisio arnynt i’r eithaf – yng nghynhyrchiant pysgodfeydd ar draws y byd.”

Rhannu’r stori hon