Ewch i’r prif gynnwys

Busnes y Flwyddyn

7 Mehefin 2018

ABC Awards
Image courtesy of A&B Cymru

Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi cael ei henwi’n Fusnes y Flwyddyn Admiral yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru am y ffordd arloesol y mae'n defnyddio'r celfyddydau i wella gofal iechyd i bobl ag anableddau dysgu.

Mae actorion anabl o gwmni theatr Hijinx wedi gweithio gyda thros 400 o fyfyrwyr meddygaeth yn eu pedwaredd flwyddyn gyda senarios chwarae rôl clinigol er mwyn mynd i'r afael â diffyg hyfforddiant wrth gyfathrebu â phobl ag anableddau dysgu, a gofalu amdanynt.

Mae'r bartneriaeth, sydd bellach yn rhan o gwricwlwm craidd myfyrwyr meddygol y Brifysgol, wedi cynyddu hyder y myfyrwyr wrth iddynt ddysgu i addasu eu hymagwedd a'u hiaith ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.

Mae'r prosiect wedi codi enw da'r ysgol, gan ei gwneud yn fwy deniadol i fyfyrwyr y dyfodol, ac wedi hybu enw da Hijinx fel cwmni sy'n arloesi gyda theatr gynhwysol wrth i'w actorion chwilio am gyfleoedd gwaith cyflogedig rheolaidd.

Enillodd y bartneriaeth y Wobr Celfyddydau, Busnes ac Iechyd hefyd.

Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau Celf a Busnes Cymru neithiwr (25 Mai) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae'r digwyddiad, sydd bellach yn dathlu 25 mlynedd, yn cydnabod ymrwymiad rhagorol i gefnogi'r celfyddydau.

Yn ôl Dr Robert Colgate o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill Gwobr Busnes y Flwyddyn Admiral a'r wobr Celfyddydau Busnes ac Iechyd; mae'n gyflawniad enfawr. Mae actorion rhagorol Hijinx wedi codi sgiliau ac addysgu ein myfyrwyr israddedig, gan eu helpu i wella gofal cleifion wrth edrych ar ôl unigolion sydd ag anghenion dysgu. Rydym ni'n gobeithio y bydd y bartneriaeth yn cael effaith gadarnhaol ar yr holl gymunedau y bydd ein myfyrwyr meddygol yn gweithio ynddynt yn y dyfodol."

Dywedodd Rachel Jones, Prif Weithredwr Celfyddydau a Busnes Cymru: "Mae Celfyddydau a Busnes Cymru'n credu'n gryf yng ngallu unigryw'r celfyddydau i uno cymunedau a gwella bywydau. Rydym ni wedi gweld yr effaith gadarnhaol y gall partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol a busnesau ei chael, nid yn unig ar ei gilydd ond hefyd y cymunedau ble maen nhw'n gweithredu ac economi Cymru'n ehangach. Mae'n anrhydedd cael dathlu cynifer o gwmnïau a chyrff celfyddydol rhagorol sy'n cydweithio ar draws Cymru mewn ffyrdd arloesol sy'n aml yn gwneud i ni deimlo'n wylaidd."

Rhannu’r stori hon

Edrychwch beth sydd gan ein myfyrwyr meddygaeth i’w ddweud am astudio yma.