Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn awgrymu bod addysg yn achosi golwg byr

6 Mehefin 2018

Woman having eye test

Mae astudiaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste wedi dangos po fwyaf o amser y mae person yn ei dreulio mewn addysg, y mwyaf tebygol ydyw o ddatblygu golwg byr.

Mae’r ymchwil, sy’n cynnig tystiolaeth newydd fod amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg yn ffactor risg achosol ar gyfer golwg byr (myopia), yn datgelu bod cynnydd o 0.27 dioptr mewn namau plygiant myopig am bob blwyddyn ychwanegol sy’n cael ei threulio mewn addysg. Awgryma hyn y byddai graddedigion prifysgol yn y DU, gyda 17 mlynedd mewn addysg, ar gyfartaledd un dioptr yn fwy myopig nag unigolyn a adawodd yr ysgol yn 16 oed gyda 12 mlynedd o addysg. Mae’r gwahaniaeth hwn mewn difrifoldeb myopia yn ddigon i gymylu’r golwg islaw’r safonau gyrru cyfreithiol.

Myopia, neu olwg byr, yw un o’r prif achosion o anabledd gweledol yn y byd. Mae nifer yr achosion yn cynyddu’n gyflym yn fyd-eang ac wedi cyrraedd lefelau epidemig mewn rhannau o Ddwyrain a De-ddwyrain Asia.

Ers dros ganrif, mae astudiaethau arsylwadol wedi gweld cysylltiadau rhwng addysg a myopia, ond nid oedd sicrwydd ynghylch a yw amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg yn achosi myopia.

Er mwyn ymchwilio i b’un ai a yw amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg yn ffactor risg achosol ar gyfer myopia, defnyddiodd yr ymchwilwyr ddull o’r enw ‘hap-samplu Mendelaidd’ (MR) i astudio tua 68,000 o gyfranogwyr o Fanc Bio’r DU.

Meddai'r Athro Jez Guggenheim o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd, a gyd-arweiniodd yr ymchwil: “Mae’r astudiaeth hon yn cynnig tystiolaeth newydd sy’n awgrymu bod addysg yn ffactor risg achosol ar gyfer myopia. Gyda’r cynnydd cyflym yn nifer yr achosion byd-eang o fyopia a’i gymhlethdodau sy’n bygwth y golwg, ynghyd â baich economaidd colli golwg, mae gan ganfyddiadau’r astudiaeth hon oblygiadau pwysig i arferion addysgol.

Nid yw’r dadansoddiadau presennol yn dangos sut yn union y gallai addysg effeithio ar olwg plant. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth dda o hap-dreialon rheoledig sy’n dangos bod treulio mwy o amser yn yr awyr agored yn diogelu plant rhag datblygu myopia, felly gallai hyn fod yn rhan o’r esboniad. Mae gweithgareddau gwaith agos, fel darllen, wedi’u cysylltu â myopia, ond nid i’r un graddau â diffyg amser yn yr awyr agored.

Tan ein bod yn deall y cysylltiad rhwng addysg a myopia yn well, mae’r tîm ymchwil yn argymell i blant dreulio digon o amser yn yr awyr agored (gan eu hamddiffyn rhag yr haul, gan gynnwys het a sbectol haul pan fydd hi’n heulog iawn).

Mae’r ymchwil ‘Education and myopia: a Mendelian randomisation study’ wedi’i gyhoeddi yn BMJ.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.