Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu ein cymuned

9 Gorffennaf 2015

Grangetown houses

Iechyd, ffyniant a lles yw canolbwynt prosiect gan y Brifysgol sy'n cydweithio â nifer o gymunedau yng Nghaerdydd

Bydd Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn cynnal ei lansiad lleol yng Nghaerdydd, Dathlu Ein Cymuned, yn Warws Riverside ddydd Gwener 10 Gorffennaf. Cynhelir gweithgareddau yng Nghanolfan Stryd Wyndham yn Riverside hefyd.

Mae'r Brifysgol yn cydweithio'n agos â thrigolion a grwpiau cymunedol yn yr ardal Cymunedau yn Gyntaf yn Butetown, Riverside a Grangetown.

Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru sy'n ceisio gwella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru.

Bydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles a mynd i'r afael â thlodi.

Bydd tîm Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn gwrando ar farn pobl am eu cymunedau ac yn gweithio gyda nhw i ganfod atebion er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd.

Bydd gan y prosiect rôl bwysig mewn cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n defnyddio diwylliant i fynd i'r afael â thlodi.

Cynhaliwyd lansiad tebyg ym Merthyr Tudful yr wythnos ddiwethaf. Yno, mae'r prosiect yn cydweithio â thrigolion y Gurnos, Penydarren a Dowlais yn ardal Gogledd Merthyr.

Cynhelir y lansiad yng Nghaerdydd yn Warws Riverside rhwng 2 ac 8 o'r gloch a bydd y gweithgareddau'n cynnwys amgueddfa dros dro, gweithdy celf, peiriant argraffu 3D a rasio cynrhon.

Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cael rhagor o wybodaeth am brosiect Porth Cymunedol y Brifysgol, sy'n gweithio gyda chymuned Grangetown.

Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Stryd Wyndham hefyd, gan gynnwys sgwrs am roi ymchwil ar waith a chydweithfa fwyd.

Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach a'r Porth Cymunedol yn ddau o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.

Rhannu’r stori hon