Ewch i’r prif gynnwys

Cysgu i mewn

5 Mehefin 2018

Mae myfyrwyr a staff o Ysgol Busnes Caerdydd wedi codi dros £180 ar gyfer Llamau, elusen digartrefedd ymysg yr ieuenctid, drwy gymryd rhan mewn digwyddiad cysgu i mewn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Teri Fitzpatrick, Sara Fleming, Eleanor Piercy, Sara Wong, Abdullatif Al Omani a Maria Shikai, israddedigion BSc Rheoli Busnes yn eu hail flwyddyn yn Ysgol Busnes Caerdydd. Treuliodd y rhai a gymerodd ran noson yn ‘cysgu allan’ yng nghyntedd y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion.

Roedd yn rhan o brosiect ar y modiwl Marchnata a’r Gymdeithas a arweinir gan Dr Carolyn Strong.

Mae ‘cysgu i mewn’ yn ddigwyddiad codi arian newydd a gyflwynwyd gan yr elusen o Gaerdydd; maent yn gyfle i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid ar draws Cymru chwarae eu rhan wrth geisio rhoi pen ar ddigartrefedd ymysg yr ieuenctid a chodi arian ac ymwybyddiaeth.

Yn ogystal â chwarae gemau drwy garedigrwydd Cymdeithas Gemau’r Brifysgol, gwylio ffilmiau a rhannu bwyd diolch i Domino’s Pizza, defnyddiodd y cyfranogwyr ddeunyddiau adenilledig a gafwyd ar draws yr Ysgol mewn cystadleuaeth codi cysgodfa.

Cafwyd hefyd raffl gyda gwobrau a roddwyd gan Stag Coffee, Love Cardiff Clothing, Groom for Men a New Dimensions Hair Salon, a wnaeth gyfrannu at lwyddiant codi arian y digwyddiad.

Dywedodd Teri Fitzpatrick, a fydd cyn bo hir yn cwblhau ei hail flwyddyn o’r BSc Rheoli Busnes: “Mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth a rhoddion ar gyfer pobl ifainc sy’n agored i niwed yng Nghymru a allai fod yn profi digartrefedd.

“I filoedd o bobl yng Nghymru, realiti dychrynllyd yw digartrefedd, ac felly fe wnaethom geisio gwneud beth bynnag a allem fel cymuned o fyfyrwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoddion ar gyfer rhywbeth sy’n effeithio ar y gymuned leol yma yng Nghaerdydd.”

Yn gynharach eleni, gwnaeth Ysgol Busnes Caerdydd y gyntaf o gyfres o roddion i Llamau ar ôl dewis sefydliad o’r trydydd sector fel ei elusen ar gyfer y flwyddyn.

Yn dilyn y cysgu i mewn a digwyddiad cymunedol lle’r oedd staff, myfyrwyr, teulu a ffrindiau yn dathlu pen-blwydd yr Ysgol yn 30 oed, daeth cyfanswm y rhoddion hyd yma i £3,340.

Dywedodd Fiona Hawthorn, Codwr Arian Corfforaethol a Chymunedol gyda Llamau:

“Yn Llamau, credwn na ddylai’r un person ifanc neu fenyw sy’n agored i niwed brofi digartrefedd, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Ysgol Busnes Caerdydd am ddewis cefnogi Llamau fel eu helusen enwebedig."

"Mae ganddynt ddealltwriaeth dda o’n cenhadaeth i ddod â digartrefedd ymysg yr ieuenctid i ben yn ogystal â digartrefedd ymysg menywod sy’n agored i niwed; bydd eu hymdrechion codi arian a’u cefnogaeth wych yn cael effaith wirioneddol ar ddyfodol y bobl yr ydym yn eu cefnogi.

Cenhadaeth Llamau yw dileu digartrefedd ymysg pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed yng Nghymru. I gael gwybodaeth am gynnal eich digwyddiad cysgu i mewn eich hun, ewch i wefan Llamau.

Ychwanegodd Teri Fitzpatrick: "Mae digartrefedd ymysg yr ieuenctid yn golygu mwy o lawer na pheidio â bod â rhywle i gysgu. Mae gan bobl ifainc digartref anghenion cymhleth ac mae’n rhaid eu cefnogi gyda mwy na llety yn unig er mwyn iddynt ddod dros ddigartrefedd.

"Dyma achos teilwng iawn dros fater sy’n effeithio’n amlwg ar Gaerdydd. Byddwn yn sicr am gymryd rhan mewn digwyddiad ar gyfer Llamau eto.”

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.