Ewch i’r prif gynnwys

Briffio Aelodau'r Cynulliad am e-sigaréts

9 Gorffennaf 2015

e-cigarettes2

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi briffio Aelodau'r Cynulliad am dueddiadau pobl ifanc yng Nghymru o ran defnyddio e-sigaréts

Daw'r cyflwyniad wrth i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried mesurau i gyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau anadlu nicotin fel rhan o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). 

Cyflwynodd Dr Adam Fletcher o'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Caerdydd, ganfyddiadau dau arolwg o blant ysgol gynradd ac uwchradd, o fwy na 150 o ysgolion yng Nghymru, a gynhaliwyd yn 2013 a 2014.

Rhannodd y canfyddiadau ymchwil gydag Aelodau'r Cynulliad, gan ddweud nad oes llawer o bobl ifanc yn parhau i ddefnyddio e-sigaréts yn rheolaidd, er bod llawer ohonynt yn rhoi cynnig arnynt. Clywodd yr Aelodau hefyd bod y rheini sy'n parhau i'w defnyddio'n rheolaidd hefyd yn debygol o ysmygu sigaréts confensiynol. Roedd y rheini sydd eisoes yn ysmygu bob wythnos, 100 gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio e-sigaréts yn rheolaidd na'r rheini nad ydynt yn ysmygu.

Wrth sôn am yr ymchwil, dywedodd Dr Adam Fletcher: "Mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad yw e-sigaréts yn debygol o wneud cyfraniad uniongyrchol o bwys o ran gwneud i bobl ifanc fod yn gaeth i nicotin ar hyn o bryd.  Mae'r cyswllt cryf rhwng ysmygu a defnyddio e-sigaréts hefyd yn awgrymu nad yw pobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio'r cynnyrch i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu."

Ychwanegodd Dr Fletcher, "Roedd gallu rhannu'r gwaith ymchwil yn uniongyrchol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a chyfrannu at y drafodaeth bwysig hon, yn gam cadarnhaol iawn."

Roedd y cyflwyniad hwn yn un o gyfres o sesiynau briffio academaidd rheolaidd ar gyfer Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'u staff, i gefnogi eu gwaith a'u helpu i ddatblygu'r broses o lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Rhannu’r stori hon