Ewch i’r prif gynnwys

Athro Ieithoedd Modern yn rhybuddio rhag ynysu ieithyddol ar ôl Brexit mewn panel trafod yn y Gelli

4 Mehefin 2018

Trefnodd a chyflwynodd yr Athro Claire Gorrara drafodaeth amserol yng Ngŵyl y Gelli eleni gyda’r nod o ystyried agweddau tuag at ddysgu ieithoedd yn y DU ar ôl Brexit.

Ar 25 Mai, ymunodd Christopher Lewis, Pennaeth Addysg British Council Cymru, Anna Vivian Jones, Arweinydd Dysgu Ieithoedd Tramor Modern ERW, un o bedwar consortiwm addysg Cymru, a Teresa Tinsley, ymgynghorydd ac ymchwilydd ieithoedd, â’r Athro Gorrara ar y llwyfan yn yr ŵyl ryngwladol mewn panel trafod yn dwyn y teitl, “Why bother studying modern languages – everyone speaks English.”

Edrychodd y drafodaeth ar ymchwil sy’n awgrymu bod pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi atgyfnerthu agweddau negyddol tuag at ddysgu ieithoedd mewn ysgolion. Mae athrawon wedi sôn am ddisgyblion yn rhoi ‘ochenaid o ryddhad gan nad oes angen iddynt ddysgu Ffrangeg bellach oherwydd y dybiaeth fod pawb yn siarad Saesneg.’

Fodd bynnag, mewn gwirionedd, dim ond 6% o boblogaeth y byd sy’n siaradwyr Saesneg brodorol. Nid yw 75% o’r byd yn gallu siarad Saesneg o gwbl.

Yn ddiddorol, yn ôl tri chwarter o drigolion y DU, Saesneg yw’r unig iaith y maent yn gallu ei siarad.

Dywedodd y panel fod mwy o flogiau Japaneeg yn bodoli na rhai Saesneg; taw Arabeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf ar y cyfryngau cymdeithasol; bod cyfran cynnwys Saesneg y we yn gostwng tra bod cyfran Mandarin yn cynyddu, ac mai Ffrangeg ac Almaeneg sydd ar frig rhestr ddymuniadau cyflogwyr y DU mewn perthynas â sgiliau darpar gyflogeion.

Dywedodd yr Athro Gorrara, “Camddealltwriaeth o’r ffeithiau yw’r dybiaeth mai Saesneg yw’r norm, ond mae’r syniad fod pawb yn siarad Saesneg yn codi’n rheolaidd, ac mae llawer o bobl yn y DU yn credu hyn.”  Aeth ymlaen i rybuddio fod risg o ran cyfleoedd economaidd ac adeiladu pontydd â gweddill y byd o ganlyniad i Brexit os na fyddai Prydeinwyr yn dod yn llai “iaithffobig” ac yn dysgu mwy o ieithoedd.

Mae’r manteision o fod yn amlieithog yn niferus, ond mae cyfleu hyn i ddarpar ddysgwyr yn allweddol. Gall cyflogeion amlieithog ddisgwyl cyflog o hyd at 20% yn uwch mewn rhai swyddi penodol o gymharu â’u cyfoedion uniaith, ac mae 1/3 o fusnesau yn nodi eu bod yn chwilio am bobl â sgiliau iaith. Nid dim ond manteision ariannol sydd i ddysgu iaith chwaith; mae amlieithrwydd yn helpu gyda’r cof, aml-dasgio, gallu, iechyd a chanolbwyntio.

Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn gweithio’n galed mewn partneriaeth ag eraill i wella agweddau tuag at ddysgu iaith. Mae’r Ysgol yn arwain y cynllun mentora Ieithoedd Tramor Modern, lle mae myfyrwyr israddedig yn ymweld ag ysgolion lleol i fentora disgyblion iau ym mlynyddoedd 8 a 9 i’w hannog i ddysgu iaith ar lefel TGAU. Mae hefyd yn cynnig mwy na 60 cyfuniad o radd sy’n eich galluogi i astudio ieithoedd amrywiol neu iaith ochr yn ochr ag amrywiaeth o bynciau.

Gan sôn am ei hymddangosiad yng Ngŵyl y Gelli, dywedodd yr Athro Gorrara, “Mae’n bwysig iawn chwalu’r mythau sy’n bodoli ynghylch dysgu ieithoedd pan fo gennym gyfleoedd o’r fath, yn arbennig gyda’r ansicrwydd sy’n ein hwynebu yn sgil Brexit. Yn hytrach nag ynysu ein hunain, dylem fod yn annog pobl ifanc i agor eu llygaid i weddill y byd, ac mae dysgu ieithoedd yn rhan hanfodol o hyn.”

Rhannu’r stori hon