Ewch i’r prif gynnwys

Cytundeb ffurfiol gyda USM yn adeiladu ar gydweithredu hirsefydlog

4 Mehefin 2018

Cardiff University signing MoU with USM

Ar 30 Ebrill 2018, llofnododd Prifysgol Caerdydd gytundeb ffurfiol gyda Universiti Sains Malaysia (USM) yn Penang. Daw’r cytundeb yn dilyn cyd-ymchwil hirdymor rhwng Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd a’r brifysgol ym Malaysia.

Roedd y cydweithredu gwreiddiol a arweiniodd at y cysylltiad hwn rhwng yr Athro Roger Falconer, arweinydd y Ganolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd ar y pryd, a chydweithwyr ymchwil yn Ysgol Mathemateg ac Ysgol Biowyddorau USM, ac ers 2002 gyda’r Ganolfan Ymchwil Peirianneg Afonydd a Draenio Trefol (REDAC).

Dan arweiniad yr Athro Azazi, Cyfarwyddwr y Campws Peirianneg yn USM, a’r Athro Falconer, mae REDAC a’r Ganolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol wedi dod yn ganolfannau rhagoriaeth byd-eang cydnabyddedig yn y maes peirianneg dŵr. Mae Is-Gangellorion y ddwy brifysgol nawr yn awyddus i weld y perthnasau hyn yn datblygu a ffynnu ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.

Dywedodd yr Athro Falconer: “Mae gennyf gysylltiadau hirsefydlog â USM ers diwedd y 1980au a dwi wrth fy modd o weld y cytundeb ffurfiol hwn sy’n cydnabod awydd cryf fy nghydweithwyr yn USM a Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu ac ehangu ein cydweithio. Mae’r Athro Azazi a chydweithwyr yn yr ysgol Peirianneg eisoes yn cydweithio ar gynigion cyd-ymchwil newydd, a fydd yn helpu i gyfnewid ymchwilwyr ar draws y ddau sefydliad.”

Dywedodd yr Athro Steve Bentley, Deon Rhyngwladol ar gyfer Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, a lofnododd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ran Prifysgol Caerdydd: “Dwi wrth fy modd fod Is-Ganghellor USM, yr Athro Datak Asma Ismail, a minnau yn llofnodi’n ffurfiol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng ein dau sefydliad. O ystyried y cysylltiadau cryfion sydd eisoes wedi’u creu, mae’n gwneud synnwyr datblygu ein cydweithrediad ymchwil yn y maes peirianneg. Fodd bynnag, mae’r ddau sefydliad eisiau gweld hyn yn tyfu ac ehangu i feysydd ymchwil eraill ar draws y ddwy brifysgol.”

Gwnaeth Dr Bentley gydnabod cefnogaeth y ddau Is-Ganghellor gan ddweud:  “Mae’r ddwy brifysgol yn rhannu llawer o’r un diddordebau a dwi’n siŵr y bydd y gydnabyddiaeth ffurfiol hon, sydd wedi’i hadeiladu ar sylfeini mor gryf, yn sicrhau llwyddiant cydweithio yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon