Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd Caerdydd yn ennill gwobr am ymchwil seiciatreg plant

1 Mehefin 2018

Olga Eyre
Dr Olga Eyre

Mae cymrawd ymchwil glinigol wedi dod yn gydradd gyntaf yng nghategori Cyhoeddiad Hyfforddai am ei gwaith.

Enillodd Dr Olga Eyre y wobr am ei phapur: Investigating the genetic underpinnings of early-life irritability, a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Dr Lucy Riglin.

Nod y wobr CPRS hon yw dathlu a hyrwyddo gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl plant a’r glasoed gan aelod o CPRS sy’n hyfforddi mewn seiciatreg plant a’r glasoed. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant craidd (Lefel CT) a Chymrodorion Clinigol Academaidd (ACF).

Penderfynodd aelodau Pwyllgor Cystadleuaeth y Gymdeithas ar enillydd y gystadleuaeth, ac roedd safon uchel, methodoleg gadarn a phwysigrwydd clinigol y cyhoeddiad wedi creu argraff arnynt.

Nod y papur oedd ymchwilio i geneteg anniddigrwydd, a phrofi’n bennaf a yw anniddigrwydd mewn plentyndod wedi’i gysylltu â risg genetig ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorbryder (ADHD). Archwiliwyd y cysylltiad rhwng anniddigrwydd a’r risg genetig ar gyfer iselder hefyd.

Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod anniddigrwydd yn gysylltiedig â risg genetig ar gyfer ADHD yn y boblogaeth gyffredinol ac mewn unigolion ag ADHD, ond ni welwyd cysylltiad â’r risg genetig ar gyfer iselder. Mae hyn yn awgrymu y gallai anniddigrwydd yn ystod plentyndod gael ei ystyried yn anhawster niwroddatblygiadol, yn fwy tebyg i anhwylderau fel ADHD nag i anhwylderau hwyliau.

Wrth sôn am y wobr dywedodd Olga:

“Rydw i wrth fy modd i ennill y wobr fawreddog hon. Mae’n dangos pa mor galed mae pawb fu’n rhan o’r gwaith ymchwil hwn wedi gweithio. Rwy’n gobeithio y bydd ein canfyddiadau’n gwella ein dealltwriaeth o anniddigrwydd ar ddechrau bywyd, ei sail genetig, a’i gysylltiadau â chyflyrau seiciatrig eraill.

“Diolch Anita am yr enwebiad ac i bawb arall sydd wedi fy helpu a fy nghefnogi yn fy ngyrfa ymchwil hyd yma.”

Cafodd Olga ei henwebu ar gyfer y wobr gan yr Athro Anita Thapar, arweinydd thema ymchwil anhwylderau datblygiadol. Wrth sôn am lwyddiant Olga, dywedodd:

“Mae’n wych bod gwaith caled Olga wedi cael ei gydnabod. Mae’r ymchwil a wnaed ganddi hi a gweddill y tîm yn arloesol ac rydw i mor falch i’w gweld yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd y bydd hi a’i chydweithwyr yn ei wneud yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon