Ewch i’r prif gynnwys

Ymgyrch dros bolisi cyhoeddus gwell yn ennill gwobr

1 Mehefin 2018

Public Policy Institute meeting

Mae partneriaeth a hyrwyddodd gydweithio rhwng academyddion a Llywodraeth Cymru yn dathlu gwobr arloesi am helpu i wella effeithiolrwydd cyflawni polisïau drwy roi mynediad uniongyrchol i Weinidogion y Llywodraeth at dystiolaeth annibynnol a dadansoddi arbenigol.

Mae’r bartneriaeth rhwng y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a Llywodraeth Cymru wedi ennill y Wobr Effaith ar Bolisi yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd.

Cydweithredu’n sicrhau tystiolaeth i helpu i wella polisi’r llywodraeth.

Helpodd y Sefydliad i Weinidogion nodi eu hanghenion tystiolaeth gan roi mynediad iddynt i arbenigwyr o bob rhan o Gymru, y DU a thu hwnt. Rhwng 2013 a 2017, cwblhaodd fwy na 70 o astudiaethau a gweithiodd gyda mwy na 200 o arbenigwyr.

Arweiniodd y llwyddiant at y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru’n dyfarnu £6.1m i Brifysgol Caerdydd sefydlu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.  Mae’r Ganolfan, a lansiwyd yn Hydref 2017, yn parhau â gwaith Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ac yn ei ymestyn i roi cymorth i fyrddau iechyd, cynghorau lleol a gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Dywedodd Steve Martin, Athro Polisi Cyhoeddus a Rheoli yn Ysgol Fusnes Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, fod y bartneriaeth wedi gosod sylfeini cryf i sicrhau polisi cyhoeddus gwell yng Nghymru.
“Mae’r Ganolfan newydd yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru drwy barhau i alluogi Gweinidogion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio tystiolaeth a dadansoddi annibynnol awdurdodol...”

“Mae’r Ganolfan yn un o ddeg sefydliad sy’n ffurfio rhwydwaith Canolfannau Beth sy’n Gweithio y DU ac mae’n helpu i sicrhau bod llunwyr polisi ac ymarferwyr yng Nghymru’n cael budd o’r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan ganolfannau yn yr Alban a Lloegr.”

Yr Athro Steve Martin Chief Executive, Wales Centre for Public Policy

Mae’r dull arloesol hwn o lunio polisi cyhoeddus wedi’i ganmol gan y Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd a denu sylw gan nifer o wledydd eraill.  Er enghraifft, mae gweision sifil yng Ngogledd Iwerddon wrthi’n sefydlu sefydliad tebyg i weithio gyda’u Gweinidogion.

Dywedodd Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru: “Mae’r cydweithrediad wedi dod â buddion helaeth i Lywodraeth Cymru. Arweiniodd at ryngweithio agosach rhwng gweinidogion ac academyddion ar sylfaen annibynnol, ffyddiog - a chreodd dull a sbardunir gan alw, gan roi gwybodaeth i Weinidogion yn y ffordd gywir ar yr adeg gywir. Diolch i’r bartneriaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cwblhau aseiniadau sy’n aml yn gymhleth am gost isel, hwyluso gweithdai a datblygu briffiau arbenigol wyneb yn wyneb i weinidogion, gan ein helpu i gyflawni polisi cyhoeddus mwy effeithiol.”

Mae’r bartneriaeth hefyd wedi arwain at recriwtio a datblygu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan eu galluogi i fod yn rhan o ymchwil sy’n berthnasol i bolisi, a datblygu deunyddiau addysg i ddwy raglen meistr.