Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau iechyd rhywiol gwaeth i bobl ifanc mewn gofal

31 Mai 2018

Foster care

Mae pobl ifanc mewn gofal maeth yng Nghymru yn profi canlyniadau iechyd rhywiol gwaeth, yn ôl canfyddiadau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Louise Roberts, o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, oedd yn arwain y papur ymchwil, oedd yn gynnyrch cydweithio rhwng y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) a'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE).

Dadansoddwyd data a gasglwyd yn flaenorol yn Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Cymru. Datgelodd yr arolwg, y cymerodd dros 35,000 o bobl ifanc Cymru ran ynddo, fod pobl mewn gofal maeth yn sylweddol fwy tebygol o adrodd eu bod wedi cael cyfathrach rywiol erioed, a bod y gyfathrach wedi digwydd ar oed cynharach.

Ar adeg eu cyfathrach ddiwethaf, roeddent hefyd dair gwaith yn fwy tebygol o nodi nad oeddent yn defnyddio condom ac yn sylweddol llai tebygol o fod wedi defnyddio'r bilsen atal cenhedlu.

Cyfaddefodd cyfran uwch o bobl ifanc mewn gofal maeth hefyd eu bod wedi anfon delwedd rywiol eglur ohonynt eu hunain, neu fod delwedd rywiol eglur ohonynt wedi'i hanfon ymlaen heb eu caniatâd, o'u cymharu â phobl ifanc oedd â mathau eraill o drefniadau byw.

Yn ogystal ag ystyried profiadau pobl ifanc, cynhaliodd ymchwilwyr 22 o gyfweliadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mynegodd y rheini a gymerodd ran beth hyder yng nghyflwr y system gofal i adnabod ac ymateb i anghenion rhywiol pobl ifanc. Ond canfuwyd fod effeithiolrwydd y system yn cael ei danseilio gan adnoddau annigonol a chapasiti proffesiynol cyfyngedig, oherwydd effaith toriadau cyllid a mesurau llymder.

Amlygodd gweithwyr proffesiynol hefyd bryderon ynghylch ceisio achub y blaen ar risgiau'n gysylltiedig ag iechyd rhywiol a beichiogrwydd heb ei gynllunio, ac ar yr un pryd ceisio osgoi hybu, annog neu gydoddef gweithgarwch rhywiol cynnar.

Pwysleisiwyd dylanwad profiadau pobl ifanc cyn ac yn ystod gofal y wladwriaeth yn y dewisiadau roeddent yn eu gwneud. I rai, roedd chwilio am gariad, perthynas deuluol neu berthyn yn ddylanwadau pwerus ar eu hymddygiad, waeth beth oedd y ddarpariaeth ar gyfer cyngor ar iechyd rhywiol.

Dywedodd Dr Louise Roberts, Cydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant: "Mae'r canfyddiadau'n cynnig tystiolaeth werthfawr o ganlyniadau iechyd rhywiol gwaeth i bobl ifanc mewn gofal yng Nghymru. Maent yn teilyngu sylw polisi ac ymarfer o'r newydd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cefnogaeth effeithiol yn y maes hwn. Awgrymwn y dylid ymgymryd ag ymdrechion i fynd i'r afael â'r anfantais hon 'gyda' phobl ifanc mewn gofal yn hytrach nag 'ar eu cyfer' a dylid cydnabod anghenion emosiynol yn ogystal â rhai ymarferol."

Mae 'Sexual health outcomes for young people in state care: Cross-sectional analysis of a national survey and views of social care professionals in Wales' ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.