Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr i ddyfais sy’n canfod difrod i arfwisg

1 Mehefin 2018

A-Ultra

Mae cydweithrediad a ddatblygodd ddyfais canfod difrod i arfwisg filwrol wedi ennill gwobr arloesi.

Daeth Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd ynghyd â Microsemi, sydd â’i bencadlys yng Nghaliffornia, i ddatblygu A-Ultra - system law ysgafn sy’n defnyddio uwchsain i ganfod difrod i offer amddiffynnol personol.

Enillodd y cydweithrediad wobr Arloesi Busnes yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

https://www.youtube.com/watch?v=cv27dnA_1Yw&feature=youtu.be

Caiff tua phum miliwn o unedau arfwisg a ddefnyddir gan luoedd arfog y DU eu cludo’n achlysurol i bedwar ban byd am arolygiad pelydr-X, sy’n gostus iawn.

Mae system A-Ultra’n galluogi i gadernid arfwisg amddiffynnol gael ei fonitro’n lleol, gan wella diogelwch lluoedd arfog y DU a sicrhau arbedion i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r dechnoleg yn defnyddio troswr i anfon tonfeddi uwchsain ar draws wyneb yr arfwisg sy’n mynd at droswr arall. Os yw arwyneb yr offer amddiffynnol wedi’i ddifrodi, gall y system ei ‘fethu’ neu ei ‘basio’ yn unol ag amodau maes milwrol - gan greu canlyniadau sy’n gymaradwy â dulliau profi mewn labordy.

Dywedodd Dr Rhys Pullin, yr Ysgol Beirianneg: “Mae’n wych ennill y Wobr Arloesi Busnes. Mae’r cydweithrediad wedi sicrhau buddion helaeth i’r Ysgol a’r Brifysgol. Mae defnyddiau’r dechnoleg hon yn mynd y tu hwnt i arfwisg, gan arwain y ffordd at gydweithredu yn y dyfodol.

“Mae’r cydweithrediadau hyn wedi ein helpu i greu cais Innovate U.K. £1m - gyda Microsemi, sydd â’i bencadlys yn Nghil-y-coed, Aston Martin Lagonda a Shape Machining. Rydym hefyd wedi datblygu patent a recriwtio ymchwilydd rhagorol, Dr. Ryan Marks, ynghyd â phedwar aelod o staff...”

“Dechreuodd A-Ultra fel prosiect israddedig. Mae tua 20 myfyriwr wedi cwblhau astudiaethau achos, gan gynnwys rhai a aeth ymlaen i wneud PhD. Diolch i’r mewnbwn hwn, mae gwybodaeth arbenigol helaeth y tîm o uwchsoneg-acwstig a geometreg yn dal i dyfu.”

Yr Athro Rhys Pullin Senior Lecturer - Teaching and Research

Dywedodd Martin McHugh, Pennaeth Busnes a Datblygu Technoleg Microsemi: “Mae’n anrhydedd ac yn bleser derbyn y wobr hon. Mae datblygiad A-Ultra wedi dod â buddion sylweddol. Mae wedi galluogi Microsemi i adeiladu ar ei dechnoleg cydran ymgorfforedig, datblygu cynnyrch ategol newydd ac o bosibl creu swyddi a chyfleoedd o gyw beirianwyr.”

Disgwylir i fuddion A-Ultra gael eu gwireddu’n llawn pan fydd yr MoD yn rhyddhau adroddiad ar y prosiect i’r holl gwmnïau sy’n gwneud cais i ddatblygu system arfwisg VIRTUS.

Rhannu’r stori hon

Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2018 y Brifysgol yn amlygu’r partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.