Ewch i’r prif gynnwys

Athro o Brifysgol Caerdydd yn cael gwobr cyflawniad oes

30 Mai 2018

Professor Ole Petersen

Mae Athro o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei wobrwyo am ei ymchwil arloesol, sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at faes ffisioleg a phathoffisioleg.

Mae'r Athro Ole Petersen CBE FRS, o Ysgol y Biowyddorau, wedi cael y wobr fwyaf ei bri gan Gymdeithas Ffisiolegol America, sy'n ei gydnabod am ei gyflawniad oes fel gwyddonydd ffisiolegol rhagorol.

Ym 1984, fe gofnododd yr Athro Ole Petersen y ceryntau sianeli sengl cyntaf o gelloedd epithelial. Aeth yn ei flaen wedi hynny i ddarganfod signalau calsiwm rhyng-gellog lleol, sut mae calsiwm yn cael ei ryddhau o’r amlen niwclear, yn ogystal â thwneli calsiwm rhyng-gellog.

Mae ymchwil yr athro o Gaerdydd wedi bwrw goleuni ar rôl y moleciwl signalau, inositol trisphosphate, mewn llid acíwt y pancreas, ac mae wedi dangos ffyrdd posibl y gellid defnyddio atalyddion fferyllol sianeli calsiwm i atal a thrin y clefyd.

Bydd treialon clinigol yn seiliedig ar ei ddarganfyddiadau yn dechrau'n ddiweddarach eleni.

I gydnabod y gwaith hanfodol hwn, cyflwynodd Cymdeithas Ffisiolegol America Wobr Walter B Cannon i Ole, a thraddododd yntau'r Ddarlith Gwobr Cannon 'The roles of Ca2+ and ATP in pancreatic physiology and pathophysiology' mewn Bioleg Arbrofol 2018 ar 22 Ebrill yn San Diego, Califfornia.

Dywedodd yr Athro Ole Petersen: "Braint fawr yw cael fy newis i dderbyn Gwobr Goffa Cannon Cymdeithas Ffisiolegol America a chael cyfle i gyflwyno Darlith Gwobr Cannon yn EB2018, y cyfarfod bioleg gyffredinol mwyaf yn y byd.

"Mae'r wobr cyflawniad oes hon yn gydnabyddiaeth bwysig i'r gwaith a wnaed yn fy labordy dros lawer o flynyddoedd gyda nifer o gydweithwyr rhagorol, yn enwedig gyda'r Doctoriaid Oleg a Julia Gerasimenko yn Ysgol Biowyddorau Caerdydd."

Rhannu’r stori hon