Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddo i gael arian ar gyfer ymchwil fyd-eang

4 Mai 2018

Dot-to-dot image of global networks

Mae Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar fin mynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n wynebu gwasanaethau gofal iechyd, addysg, a chadwyni cyflenwi technoleg uchel ar ôl sicrhau arian gan Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Bydd gwerth £60,000 o ddyfarniadau Global Challenges Research Fund (GCRF) – a sicrhawyd gan yr Athrawon Jonathan Morris ac Aris Syntetos, a’r Dr Bahman Rostami-Tabar o Ysgol Busnes Caerdydd – yn rhoi tri phrosiect ar waith yn India a Tunisia.

Uwchraddio economaidd a chymdeithasol

Bydd yr Athro Morris yn astudio’r isadeileddau presennol ar gyfer cynhyrchu, gweithgynhyrchu a chyflenwi technolegau uchel yn India.

Drwy weithio ar y cyd â’r Athro Dev Nathan o’r Sefydliad er Datblygiad Dynol, New Delhi, bydd yr Athro Morris yn cynnal cyfres o gyfweliadau gyda chwmnïau yn Bangalore er mwyn deall y cyd-destunau peirianneg, datblygu ac ymgynghori mewn technoleg uwch ar draws y genedl sy’n datblygu’n gyflym.

Meddai: “Mae dadansoddiad o’r mathau hyn o gadwyni nwyddau byd-eang yn draddodiadol gysylltiedig â’r sector ddillad ac – mewn cysylltiad â hynny – gwaith a llwybrau gyrfa incwm isel...”

“Yr hyn rwy’n gobeithio ei ddangos, drwy gyfrwng cyfres o astudiaethau achos, yw’r uwchraddio economaidd a chymdeithasol sy’n mynd rhagddo mewn gwledydd sy’n datblygu fel India, Bangladesh, de-ddwyrain Asia ac Affrica hefyd, o ganlyniad i’r gofyn am gyflogaeth â sgiliau gan gadwyni nwyddau technoleg uchel.”

Yr Athro Jonathan Morris Associate Dean for Research, Professor in Organisational Analysis

Darogan er lles cymdeithasol

Diolch i’r arian a sicrhawyd drwy GCRF, bydd yr Athro Aris Syntetos a Dr Bahman Rostami-Tabar hefyd yn gweithio yn India.

Gan ddod â 30 o gyfranogwyr ynghyd o bum sector gwahanol – gan gynnwys prosiectau cymorth dyngarol a thrychineb, elusennau a gwasanaethau cymdeithasol, addysg, gofal iechyd a llywodraeth a llunwyr polisi – bydd yr Athro Syntetos yn arwain gweithdy 3 diwrnod i ddangos pwysigrwydd darogan er lles cymdeithasol.

Yn ôl yr Athro Syntetos: “Gan ddod ag academyddion ac ymarferwyr ynghyd gyda chenadaethau cymdeithasol o bob rhan o India, byddwn yn gallu adnabod rhai o’r heriau a wynebir yn India...”

“Bydd y gweithdy, wedyn, yn ein galluogi i sefydlu agenda ar gyfer cydweithio ar ymchwil er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hynny. Gallai darogan, wrth gwrs, fod yn un o’r atebion. Felly, byddwn yn hyfforddi’r rhai sy’n cymryd rhan i ddefnyddio modelau darogan a dadansoddiadau data gan ddefnyddio ‘R’.”

Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

Mapio Gweithrediadau

Yn ogystal â chefnogi’r Athro Syntetos i gynnal y gweithdy darogan yn India, mae Dr Bahman Rostami-Tabar hefyd yn arwain prosiect arall, sy’n cwblhau’r triawd llwyddiannus wnaeth gael dyfarniadau GCRF.

Bydd Dr Rostami-Tabar, ar y cyd â GIG Cymru ac Ysbyty Charles Nicolle ysbyty yn Tunis, yn asesu’r arferion rheoli llif ar gyfer cleifion Achosion Brys a Meddygol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn Tunisia.

Meddai: “Drwy fapio llif gweithredol cynnyrch, gwybodaeth, arian, cleifion ac adnoddau dynol, rwyf am adnabod meysydd i’w gwella...”

“Bydd cyplu’r data hwn gydag arbenigedd o GIG Cymru yn fy ngalluogi, wedyn, i adnabod y ffyrdd gorau eraill o roi pethau ar waith mewn ysbytai yng ngwledydd sy’n datblygu, fel Tunisia.”

Dr Bahman Rostami-Tabar Reader in Management Science and Business Analytics

Mae prosiect diweddaraf Dr Rostami-Tabar yn rhan o gyfres sydd wedi’i halinio â chenhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol ac wedi’i alluogi gan arian mewnol a Sefydliad Rhyngwladol Daroganwyr (yr International Institute of Forecasters).

Mae GCRF yn gronfa £1.5 biliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn hwyr yn 2015 i gefnogi ymchwil arloesol sy’n mynd i’r afael â’r heriau y mae gwledydd sy’n datblygu yn eu hwynebu.

Rhannu’r stori hon

Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd gyfadran ryngwladol o ysgolheigion gorau’r byd ac mae'r enw da sydd ganddi am ei gwaith ymchwil wedi ei helpu i ennill ei phlwyf fel canolfan ysgoloriaeth ragorol i gydweithwyr o'r DU a thu hwnt.