Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn croesawu'r rhai sy'n gadael gofal

7 Gorffennaf 2015

Care Leavers

Mae pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal wedi cymryd rhan mewn ysgol haf yn y Brifysgol, i'w helpu i gael blas ar fywyd fel myfyriwr

Roedd Ysgol Haf Dyfodol Hyderus yn para dau ddiwrnod, a threfnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â First Campus. Cymerodd ugain o bobl ifanc ran, gan ymgolli mewn bywyd yn y brifysgol.  Yn ystod eu hamser yn y Brifysgol, roedd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, o sesiynau blasu academaidd i siopa am fwyd a choginio eu prydau bwyd eu hunain mewn neuaddau preswyl.

Mae'r digwyddiad yn un o gyfres o fentrau a gynhelir yn y Brifysgol, wedi'u hanelu at annog pobl o grwpiau a gaiff eu tangynrychioli yn draddodiadol i fynd i'r brifysgol.  Mae'r rhai sy'n gadael gofal yn un o'r grwpiau a dangynrychiolir fwyaf ym maes addysg uwch. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 6% o'r rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru yn 19 oed oedd mewn addysg uwch amser llawn yn 2013.  

Fel rhan o'r digwyddiad, fe wnaeth gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr addysg gyfarfod â staff a myfyrwyr presennol, i ddarganfod mwy am y gefnogaeth ychwanegol y mae'r Brifysgol yn ei chynnig.  Mae hyn yn cynnwys aelod arbennig o staff sy'n gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal; gwasanaeth sy'n ymestyn i ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol/cynghorwyr personol. Mae'r gefnogaeth yn dechrau wrth wneud cais, a bydd ar waith drwy gydol cyfnod myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Cynigir llety prifysgol drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal, ynghyd â chefnogaeth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal.  Mae'r cynllun yn rhoi cymorth ariannol ychwanegol ar adegau drwy gydol y cyfnod yn y brifysgol, i helpu gyda'r costau ychwanegol hynny sy'n gysylltiedig â dechrau a gadael y brifysgol, gan gynnwys graddio, teithio a dillad ar gyfer cyfweliadau.    

Yn 2014, rhoddodd yr elusen Buttle UK, sy'n cefnogi pobl ifanc, statws rhagorol i waith y Brifysgol gyda'r rhai sy'n gadael gofal, i gydnabod y gefnogaeth a gynigir.

Wrth sôn am yr ysgol haf, dywedodd yr Athro Patricia Price, y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, "Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau croeso cynnes i unrhyw fyfyriwr sydd â'r gallu i lwyddo, ni waeth beth fo'i gefndir.  Mae symud i fyd addysg uwch yn gam mawr i lawer o bobl ifanc, ond mae'r rheini sy'n gadael gofal yn aml yn wynebu heriau penodol". 

"Mae'r gefnogaeth a gynigir gan Brifysgol Caerdydd yn helpu'r rhai sy'n gadael gofal i oresgyn y rhwystrau hyn, ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial.  Rwy'n falch iawn o hanes y Brifysgol yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar hyn yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon