Ewch i’r prif gynnwys

Rhwydwaith ymchwil gweithredu darbodus rhithwir

23 Mai 2018

Person working on computer

Bydd y Ganolfan Ymchwil i Fentrau Darbodus (LERC) yn cael ei hail-lansio fel rhwydwaith ymchwil rhithwir ar ôl iddo gael ei phrynu gan olynydd masnachol y Ganolfan y System Cymhwysedd Darbodus (LCS).

Gan ddechrau gyda gwefan a ddyluniwyd o'r newydd, bydd LCS yn creu amgylchedd digidol lle bydd ymarferwyr academaidd a rhai o fyd diwydiant yn gallu cael mynediad at archif o adnoddau a gyhoeddwyd gan y Ganolfan fyd-enwog.

Bydd yr ail-lansiad yn ysbrydoli agenda ymchwil mentrau darbodus newydd fydd yn sail i ddatblygiad themâu a phrosiectau newydd.

Ddatblygwyd gan y Brifysgol ac cael ei gydnabod gan fyd diwydiant

Dywedodd Simon Elias, Cyfarwyddwr LCS: "Mae'r model masnachol yr ydym wedi'i roi ar waith ar gyfer LCS yn gweithio'n arbennig o dda. Ond fel un sydd â chefndir ym maes brandio rwy'n meddwl llawer am werth canfyddedig, ac mae LERC bob amser wedi rhoi hygrededd a dilysrwydd i LCS."

Mae LCS yn fframwaith cymwysterau darbodus, a ddatblygwyd gan y Brifysgol ac sy'n cael ei gydnabod gan fyd diwydiant, ar gyfer datblygu syniadau ynghylch gweithredu darbodus a sgiliau ymarferol yn y gweithle.

Gan weithio gyda chwmnïau o bob maint, gan gynnwys corfforaethau byd-eang, llywodraethau, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus/preifat neu fentrau amaethyddol neu elusennau llai, LCS yw'r darparwr mwyaf ar gyfer cymwysterau gweithle darbodus ar raddfa fyd-eang.

Yn ogystal â byd diwydiant, mae LCS wedi cyflwyno rhaglen achredu myfyrwyr yn ddiweddar mewn cydweithrediad ag Ysgol Busnes Caerdydd.

Gall myfyrwyr sydd wedi ymrestru ar gyfer Gweithdai Gweithredu Darbodus Addysg Weithredol a MBA Gweithredwyr yr Ysgol ennill cymwyseddau lefel mynediad ar ôl cwblhau rhaglenni hyfforddiant gweithredu darbodus integredig.

Ychwanegodd Mr Elias: “Tu hwnt i frandio, wrth gwrs, mae LERC a LCS yn ymwneud ag effaith ac ymgysylltu mewn modd ymarferol iawn – maent yn cael dylanwad clir ac amlwg ar fywydau pobl...”

“Rwy'n ystyried y rhwydwaith rhithwir yn gyfle i ymuno â chymuned o ymarferwyr gweithredu darbodus yn y byd academaidd a byd diwydiant, fydd yn archwilio themâu ymchwil gweithredu darbodus cyfoes sy'n berthnasol ac yn gysylltiedig â heriau busnesau heddiw.”

Simon Elias Cyfarwyddwr LCS

Bydd LCS yn lansio rhwydwaith ymchwil rhithwir LERC yn y 21ain gynhadledd Rheoli Ansawdd a Datblygiad Sefydliadol a gynhelir yn Ysgol Busnes Caerdydd rhwng 22 a 24 Awst 2018.