Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu'r cynllun rhannu beiciau

24 Mai 2018

Nextbikes

Mae llu o feicwyr yn cymryd rhan mewn reid fawr drwy Gaerdydd i ehangu cynllun rhannu beiciau newydd y ddinas, sydd wedi'i gefnogi gan y Brifysgol.

Mae OVObike, gweithredwr rhannu beiciau mwyaf y byd, yn lansio 200 o feiciau ac 20 o orsafoedd ychwanegol yng Nghaerdydd.

Bydd y ddinas gyfan yn cael y cyfle i ddefnyddio’r beiciau yn rhad ac am ddim am 24 awr ar 25 Mai yn rhan o’r lansiad swyddogol.

Mae beicwyr eisoes wedi teithio tua 4,300 milltir ar yr hanner cant o feiciau oedd yn rhan o gynllun treial a lansiwyd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Bydd digwyddiad beicio torfol i ddathlu ehangiad y cynllun ar 25 Mai o'r Senedd ym Mae Caerdydd i Pedal Power ym Mharc Bute, a fydd yn cynnwys myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, cynghorwyr, a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Roedd y cynllun yn bosibl o ganlyniad i gefnogaeth gan Gyngor Caerdydd a chefnogaeth ariannol gan Brifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Claire Sanders, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Prifysgol Caerdydd: "Mae'n gynllun arloesol i Gaerdydd sy'n cyd-fynd â'n dyheadau i greu amgylchedd mwy eco-gyfeillgar a Phrifysgol gynaliadwy.

"Gall ein staff a myfyrwyr wneud cais am aelodaeth flynyddol rad ac am ddim felly rydym yn cefnogi prosiect fydd yn eu galluogi i deithio o gwmpas ein dinas yn hawdd ac am gost fach iawn.

"Fel rhywun sy'n hoff o feicio fy hun, rydw i hefyd yn credu ei bod hi'n bwysig pwysleisio rhai o fanteision beicio, fel gwell ffitrwydd corfforol ac effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl."

Bydd y beiciau a gorsafoedd yn mynd â'r cyfanswm yng Nghaerdydd i 250 o feiciau a 25 o orsafoedd.

Yna bydd y niferoedd yn cael eu dyblu erbyn diwedd mis Awst yng ngham olaf y cynllun, gyda 500 o feiciau a 50 o orsafoedd o gwmpas y ddinas.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.