Ewch i’r prif gynnwys

Taith 360 o’r Sefydliad

23 Mai 2018

An image of the laboratory with a 360 degree logo overlaid

Bellach fe allwch chi archwilio labordy’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, gan ddilyn sampl tiwmor wrth ei baratoi i'w ddefnyddio yn ymchwil canser arloesol y Sefydliad.

Gall Dr Richard Clarkson bellach eich tywys o amgylch y Sefydliad mewn fideo 360 newydd, sy'n eich galluogi i gymryd cip o amgylch labordai ymchwil bôn-gelloedd canser Prifysgol Caerdydd.

Mae’r fideo diddorol yn gyfle i wylwyr weld y dechnoleg fodern o fewn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, ymweld â phrif labordy, ystafell meithrin celloedd, ystafell ficrosgopeg ac ystafell FACS y Sefydliad.

Meddai Dr Richard Clarkson, Ymchwilydd a Darllenydd yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd: "Rydym ni’n gweithio'n agos ag Ysbyty Athrofaol Cymru i gael  samplau tiwmor ar gyfer ein gwaith ymchwil, gan ein galluogi i brosesu a defnyddio’r celloedd canser dynol hyn yn ein gwaith.

"O fewn oriau o dynnu’r tiwmor oddi ar glaf, mae’r tiwmor yn ein labordy.

"Drwy ddefnyddio tiwmorau dynol, gallwn ni archwilio ymddygiadau’r celloedd canser a phrofi therapïau newydd posibl i dargedu bôn-gelloedd canser, i helpu i atal canser rhag datblygu, a thwf a lledaeniad canser ledled y corff.

"Mae ein taith 360 newydd yn caniatáu ichi ddilyn beth sy'n digwydd ar ôl i ni dderbyn sampl tiwmor, gan arsylwi pob cam o'r broses, wrth iddo gael ei ddefnyddio yn ein gwaith ymchwil ar fôn-gelloedd canser sy'n arwain y byd.

"Cewch weld sut ydym ni’n chwalu'r tiwmorau yn gelloedd unigol, fel y gallwn ni dargedu'r bôn-gelloedd canser, i ddadansoddi’r ffordd maent yn gyrru datblygiad canser ac yna profi therapiwteg newydd." Os hoffech chi fynd ar daith o amgylch y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, cliciwch yma:

Rhannu’r stori hon