Ewch i’r prif gynnwys

Parod ar gyfer y Byd Go-Iawn

15 Mai 2018

Cyber security interns

Bu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gwneud eu cyflwyniadau terfynol mewn digwyddiad yng Nghanolfan Hyfforddiant i Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, ddydd Mercher 9 Mai, i nodi diwedd cynllun peilot 14 wythnos iQ4 Cybersecurity Workforce Alliance, a lansiwyd ym mis Chwefror.

Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i dreialu’r model, mewn partneriaeth ag iQ4 CWA ac Innovation Point. Cafodd un ar bymtheg o fyfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau y cyfle i gyflawni interniaeth rhithwir o dan arweiniad Dr Pete Burnap, Cyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth Seibr-ddiogelwch Airbus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r interniaeth yn rhan o raglen Arloesedd i Bawb y Brifysgol, sydd wedi’i dylunio i helpu myfyrwyr i fod yn ddinasyddion gweithgar a chyfrifol a bod yn llwyddiannus yn y byd gwaith. Gwnaed hyn drwy roi cyfleoedd iddynt i ymgysylltu â chyflogwyr ac i feddwl yn greadigol a datrys problemau yn y byd go iawn.

Meddai Dr Burnap: “Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad graddedigion ar draws pob disgyblaeth. Mae seibr-ddiogelwch yn broses eithriadol o sosio-dechnegol. Mae gofyn am fewnbwn gan bynciau technegol traddodiadol megis Cyfrifiadureg a Pheirianneg; ond hefyd gan bynciau megis seicoleg, gwyddorau cymdeithasol, y gyfraith a busnes. Yn y pen draw, mae’n gyfuniad o bobl a thechnoleg sy’n cadw systemau’n ddiogel. Mae peilot CWA wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar y diwydiant seibr-ddiogelwch i ystod amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn falch o fod wedi arwain y cynllun peilot arloesol hwn gydag iQ4 ac Innovation Point.”

Cafodd yr interniaeth ei ddatblygu yn y DU, a’i nod yw datblygu ymwybyddiaeth, parodrwydd a maint gweithlu’r myfyrwyr yn gyflymach. Mae’r myfyrwyr yn gweithio mewn timau prosiect, wedi’u mentora drwy ddull rhithwir gan arbenigwyr yn y diwydiant, lle maent yn ennill profiad gwaith gwerthfawr sy’n eu helpu yn y broses o gael eu swyddi delfrydol.

Dywedodd Peter Meehan, Uwch Is-lywydd, Rhyngwladol a Phartneriaethau ar gyfer iQ4 CWA: “Maent yn ymuno â 700 o gynfyfyrwyr CWA sydd wedi bod trwy’r rhaglen interniaeth rithwir ers Awst 2015 ac mae’n werth nodi mai menywod yw tua 40% o gynfyfyrwyr CWA. Mae interniaethau CWA yn fesuradwy ac yn agored i bob myfyriwr. Mae’r cwrs yn eu galluogi i ddysgu sgiliau tîm, rôl a gweithle tra’n cael eu mentora ar-lein gan arbenigwyr yn y diwydiant am awr yr wythnos.

Mae pob myfyriwr wedi cael pasbort electronig i gofnodi eu cyflawniadau ac mae’r profiad a gafwyd yn cyfrannu at Wobr Caerdydd, gwobr cyflogadwyedd nodedig Prifysgol Caerdydd sy’n cydnabod gweithgareddau allgyrsiol ac yn ffocysu ar ddatblygiad proffesiynol y myfyrwyr.

Dywedodd Kathryn Dainty, myfyriwr Rheoli Busnes Rhyngwladol: “Fe gefais lawer o fudd o’r prosiect. Mae cael y mentoriaid yn beth da iawn gan eich bod yn dysgu gan bobl sydd yn y busnes ac sy’n dda ar beth maent yn eu gwneud.

Dywedodd Liam Hancock, Myfyriwr Rheoli Busnes: “Credaf mai siarad cyhoeddus yw un o’r pethau gorau y gewch chi ohono. Nid oes gennych gyfle fel hyn fel arfer i gael y profiad o siarad o flaen pobl o’r radd flaenaf ar sawl achlysur. Rydw i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i unrhyw un sydd ag ychydig o ddiddordeb hyd yn oed mewn seibr-ddiogelwch neu sydd eisiau ychwanegu at ei CV.”

Mae Lauren Boys yn astudio Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg, a dywedodd: “Rydw i’n teimlo’n llawer fwy hyderus yn siarad â phobl erbyn hyn, ynglŷn â seibr-ddiogelwch ac yn gyffredinol. Dyma un o’r pethau y byddaf yn edrych yn ôl arno fwyaf o bosibl wrth ystyried fy amser yn y brifysgol. Rwy’n credu ei fod yn beth pwysig iawn i’w wneud ac mae wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau er mwyn cael swydd pan fyddaf yn graddio.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.