Cymhlethdod digrybwyll rhoi genedigaeth

15 Mai 2018

Mother breastfeeding

Mae meddygon Prifysgol Caerdydd yn gweithio’n ddiwyd i wella amser diagnosis a thriniaeth i fenywod yng Nghymru sydd yn dioddef anafiadau sffincter yr anws wrth roi genedigaeth.

Ar hyn o bryd, mae anghysondeb mawr rhwng y gwasanaethau yng Nghymru a gweddill y DU, gyda chleifion yng Nghymru yn methu cael mynediad cyffredinol at driniaethau megis ffisiotherapi. Ceir amrywiadau mawr hefyd o ran faint o hyfforddiant a chymorth sy’n cael ei gynnig i Fydwragedd ac Obstetregwyr.

Drwy gynnal diwrnod hyfforddiant MASIC (Mamau ag Anafiadau Sffincter yr Anws) cyntaf, a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, mae meddygon yng Nghanolfan Hyfforddiant Llawfeddygol Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd yn gobeithio gwella ymwybyddiaeth ymysg clinigwyr am effaith lawn y cyflwr ar fenywod a’u teuluoedd, a dechrau’r grŵp cymorth i gleifion cyntaf er mwyn i fenywod yng Nghymru allu manteisio ar wybodaeth a chyngor.

Mae anaf sffincter yr anws yn effeithio’n aml ar famau sy’n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf trwy’r wain. Mae tua 3.7% o enedigaethau yng Nghymru yn arwain at anafiadau o’r fath gyda dros 10% o famau sy’n rhoi genedigaeth trwy’r llwybr geni yn datblygu rhyw fath o anymataliaeth ysgarthol, megis anallu i ddal gwynt neu garthion. Mae’n bosibl y bydd trafferthion brys a gorbryder cysylltiedig.

Prin, os o gwbl, y bydd menywod yn gwirfoddoli i rannu gwybodaeth am eu hanaf a hynny oherwydd embaras a’r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag ef. Maent yn aml yn dioddef yn dawel ac yn unig iawn.  Gall iselder, pryder a llu o effeithiau seicolegol gael effaith arwyddocaol ar fenywod ag anaf AS.

Mae’r gweithdy newydd wedi’i lunio i greu rhwydweithiau o glinigwyr â diddordeb yn y maes, darparu hyfforddiant a datblygu llwybrau clir a fydd yn galluogi cleifion i fanteisio ar ymchwiliadau a thriniaethau yn fwy cyflym. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir ei bod yn cymryd saith mlynedd ar gyfartaledd i glaf gael diagnosis a chael ei gyfeirio at arbenigwr priodol.

Nid y menywod yn unig sy’n cael eu heffeithio gan y cyflwr. Gall y sgîl-effeithiau niweidio cysylltiadau teuluol, y bond sydd ganddynt a’r cyswllt corfforol nid yn unig gyda’r partner ond gyda’r plentyn yn ogystal. Ynysig, diraddedig ac anniddig yw prif deimladau menywod ag anymataliaeth ysgarthol.

Arweinir y gweithdy yn glinigol gan Mrs Julie Cornish, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Mrs Nadia Bhal, Ymgynghorydd Obstetreg a Gynecoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

“Fe es i i lansiad sefydliad MASIC yn Llundain a’r atgof mwyaf cofiadwy sydd gen i oedd gwrando ar stori un o famau MASIC a sut y cafodd byw gydag anymataliaeth ysgarthol effaith nid yn unig ar ei bywyd hi, ond ar fywyd ei phartner a’i phlant hefyd. Fel clinigwyr, mae’n rhy hawdd i ni ganolbwyntio ar yr anaf corfforol ond mae gweithdai MASIC yn galluogi staff i gael darlun cyfannol o’r cyflwr. Mae wedi fy ysbrydoli i yrru gwelliannau yng ngwasanaethau Cymru,” meddai Mrs Julie Cornish, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ychwanegodd Mrs Nadia Bhal, Ymgynghorydd Obstetreg a Gynecoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: “Fel Obstetrydd sydd â diddordeb arbennig mewn trawma Perineal, ‘dwi wedi ymwneud â gwaith cenedlaethol a rhyngwladol i ddarparu hyfforddiant a chymorth i fydwragedd a meddygon.  Roedd mynd i lansiad MASIC yn wahanol. Roedd gwrando ar straeon mamau MASIC wedi fy nghyffwrdd.

“Llwyddodd MASIC i aildanio fy mrwdfrydedd i barhau i weithio i godi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant gan ddefnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, i wneud popeth o fewn ein gallu i atal yr anafiadau hyn rhag digwydd a darparu y lefel orau o ofal i famau MASIC ar ôl rhoi genedigaeth.”

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.