Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru

3 Gorffennaf 2015

Group of students with teacher holding notebook

Mae Prifysgol Caerdydd yn helpu athrawon i gyflwyno'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru sydd wedi'i gryfhau.

Mae mwy nag 80 o athrawon yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai sy'n cynnwys sgiliau ymchwil a dadansoddi data yn y Brifysgol ar 6 Gorffennaf.

Daw'r gynhadledd, a gynhelir gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, cyn i Lywodraeth Cymru lansio Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd ym mis Medi.

Mae'r cymhwyster yn cael ei ailgynllunio er mwyn ei wneud yn fwy trylwyr - er mwyn i bobl ifanc 14 i 19 mlwydd oed ddatblygu'r sgiliau cywir ar gyfer coleg, prifysgol, cyflogaeth a bywyd.

Mae'r Brifysgol wedi datblygu'r digwyddiad mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bwrdd arholiadau Cymru CBAC ac athrawon, fel rhan o Fenter Partneriaethau Ysgol-Prifysgol Cynghorau Ymchwil y DU.

Dywedodd Rhys Jones, darlithydd mewn dulliau meintiol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sy'n rheoli'r gynhadledd: "Fel sefydliad ymchwil blaenllaw, mae Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa addas i gynnal digwyddiad o'r fath ar gyfer athrawon a darlithwyr Addysg Bellach ledled Cymru.

"Nod y digwyddiad yw rhannu arferion gorau ar draws y Brifysgol, lle bydd academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn trafod ac yn dangos pwysigrwydd y sgiliau ymchwil a dadansoddi data yr ydym am i'n myfyrwyr eu meithrin ar draws pob lefel."

Mae athrawon Bagloriaeth Cymru a chydlynwyr o ysgolion a cholegau Addysg Bellach ledled Cymru wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, ynghyd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a CBAC.

Bydd y gynhadledd undydd yn cefnogi athrawon wrth iddynt gyflwyno'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer adran newydd Bagloriaeth Cymru, y 'prosiect unigol', y rhoddir gradd ar ei chyfer.

Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis: "Mae'r gynhadledd hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i ymarferwyr gydweithio'n agos â gweithwyr proffesiynol ym maes Addysg Uwch ar gyflwyno elfen ymchwil y Fagloriaeth newydd. 

"Dim ond cryfhau'r cysylltiadau rhwng Addysg Uwch a'r proffesiwn addysgu y gall digwyddiadau o'r fath ei wneud, a gwneud yn siŵr ein bod yn paratoi ein pobl ifanc drwy roi sgiliau bywyd hirdymor hollbwysig iddynt, yn enwedig y rheini a all fod mor fuddiol ym maes Addysg Uwch." 

Mae'r digwyddiad wedi denu uwch-academyddion ar draws y Brifysgol, a fydd yn cyflwyno sesiynau ar bynciau sy'n ymwneud â meddwl yn feirniadol, dadansoddi cymdeithasol, defnyddio setiau data biolegol a sgiliau ymchwil.

Yn ôl Sue Diment, Swyddog Prosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol, roedd tîm y prosiect wedi'i syfrdanu gan gynigion staff ar draws y Brifysgol i helpu. Mae'r aelodau staff hyn am gefnogi addysgu sgiliau ymchwil mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

Bydd athrawon hefyd yn cael y cyfle i ddarganfod mwy am ddatblygiadau eraill y Brifysgol a fydd yn cefnogi Bagloriaeth Cymru, a chymryd rhan mewn gweithdy o dan arweiniad CBAC.

Dywedodd Sian Coathup, swyddog cefnogi rhanbarthol Bagloriaeth Cymru ar gyfer CBAC: "Mae datblygu sgiliau bellach wrth wraidd y cymhwyster.  Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i athrawon ddatblygu'r sgiliau ymchwil sy'n ofynnol wrth gyflwyno'r cymhwyster newydd, yn ogystal â rhoi rhagolwg defnyddiol sut caiff y sgiliau hyn eu defnyddio maes o law yng nghyd-destun Addysg Uwch."