Ewch i’r prif gynnwys

'Arsyllfa oer' i archwilio’r bydysawd cudd

14 Mai 2018

SPICA

Bydd Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) yn ystyried taith ofod sydd â'r nod o ddatrys cwestiynau sylfaenol am sut mae bydysawdau a chysodau planedol yn tyfu ac yn esblygu.

Bydd y prosiect, o'r enw SPICA (Space Infrared Telescope for Cosmology and Astrophysics) yn cynnwys gwyddonwyr o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol, ac yn cael eu hystyried gan ESA fel dewis posibl ar gyfer ei thaith ofod dosbarth canolig, a rhagwelir y bydd yn cael ei lansio erbyn diwedd y ddegawd nesaf. Bydd Arsyllfa Ewrop-Japan yn cael ei datblygu dros y ddwy flynedd nesaf ynghyd â dwy daith arall bosibl.

Yn wahanol i olau gweladwy, nid yw ymbelydredd isgoch yn cael ei amsugno gan y llwch sydd drwy'r bydysawd i gyd – o ganlyniad, gall arsylwadau ar lefel isgoch ddangos y bydysawd cudd, gan alluogi seryddwyr i weld yn ddwfn i rannau mewnol galaethau, cymylau sy'n ffurfio sêr, a chysodau sy'n ffurfio planedau.

Bydd gan arsyllfa SPICA delesgop â diamedr o 2.5 metr fydd wedi'i oeri i ychydig raddau dros dymheredd sero absoliwt er mwyn lleihau'r ymbelydredd sy'n cael ei ryddhau gan y telesgop ei hun i'r lefel isaf bosibl.  Gyda'i synwyryddion hynod sensitif, bydd yn gallu astudio gwrthrychau yn rhannau pellaf y bydysawd.

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â bron i 20 sefydliad o 15 gwlad ledled y byd i adeiladu un o offerynnau SPICA, o'r enw SAFARI.

Bydd gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi elfennau optegol allweddol i ddewis a rheoli'r tonfeddi golau y mae'r offeryn yn eu trawsyrru, a gwaith gyda Phrifysgol Caergrawnt i ddatblygu rhan o system synhwyrydd uwch-ddargludo SAFARI.

Dywedodd yr Athro Matt Griffin, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a llefarydd tîm SAFARI y DU: "Mae cael ein dewis gan ESA ar gyfer yr astudiaeth hon yn garreg filltir bwysig i SPICA. Bydd yr arsyllfa hon yn cynnig cam mawr ymlaen yn ein gallu i astudio'r Brifysgol. Mae ei thelesgop hynod oer a'i synwyryddion hynod sensitif gannoedd o weithiau'n fwy sensitif na thelesgopau gofod isgoch blaenorol."

Dywedodd yr Athro Peter Ade, sydd hefyd yn gweithio yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ac sy'n arwain rhaglen dechnegol Caerdydd: "Mae profiad ac arbenigedd unigryw Caerdydd, a ddatblygwyd drwy weithio ar deithiau gofod isgoch blaenorol, yn hanfodol er mwyn i SPICA fod yn bosibl. Rydym yn disgwyl y bydd yr astudiaeth ddwys am ddwy flynedd yn dangos bod yr arsyllfa wych hon yn barod i hedfan."

Rhannu’r stori hon

View full details for all our courses, including entry requirements, modules and career prospects.