Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl gerddoriaeth gyfoes gan yr Ysgol Cerddoriaeth

10 Mai 2018

Fidelio Trio perform at CoMA Festival 2018 in Cardiff
Fidelio Trio

Yn ddiweddar cynhaliodd yr Ysgol Cerddoriaeth ŵyl ar gyfer cerddorion a chyfansoddwyr o bob oedran a gallu i ddathlu cerddoriaeth gyfoes.

Cyflwynodd yr Ŵyl Gerddoriaeth Gyfoes i Bawb (CoMA) gantorion ac offerynwyr i amrywiaeth o gerddoriaeth gyfoes drwy weithdai, ymarferion a pherfformiadau anffurfiol, cyn cynnal cyngherddau gan y Triawd Fidelio arobryn a Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Prifysgol Caerdydd.

Cafodd yr ŵyl ei chau gyda chyngerdd a oedd yn cynnwys perfformiad o repertoire corawl Cymreig cyfoes, gyda cherddoriaeth gan John Metcalf, Lynne Plowman, Rhian Samuel, Hilary Tann, Richard Elfyn Jones, Gareth Churchill a mwy.

Yn ystod y diwrnod, roedd Dr Robert Fokkens a'r cyfansoddwr-gyfarwyddwr Nathan Dearden yn arwain gweithdai i'r rhai oedd yn bresennol, gan gynnwys cerddoriaeth gan y cyfansoddwyr o Gymru Guto Puw a Maxwell Charles Davies, a She was a visitor gan Robert Ashley. Fe wnaeth cyfranogwyr berfformio'r darnau hyn mewn cyngerdd gyda'r nos ochr yn ochr â'r Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes.

Dywedodd Dr Robert Fokkens, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfansoddi yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd: "Nod Gŵyl CoMA yw croesawu cerddorion o bob gallu i fyd cyfoethog, amrywiol a chyffrous cerddoriaeth gyfoes, boed fel chwaraewyr, cyfansoddwyr neu aelodau o'r gynulleidfa.

Gobeithiwn fod y rhai sydd wedi ymuno â ni heddiw wedi cael profiad o'r hwyl sy'n rhan o gerddoriaeth gyfoes heddiw, a pha mor ddiddorol a hwyl gall hynny fod."

Cynhaliwyd Gŵyl CoMA gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd a Thriawd Fidelio.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.