Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod

10 Mai 2018

Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi derbyn gwobr Efydd Athena Swan i gydnabod ei hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod.

Mae Siarter Athena SWAN yn gynllun i gydnabod prifysgolion yn y DU sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dynion a menywod a chynrychiolaeth menywod yn y byd academaidd. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol i gydnabod cydraddoldeb ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM) ond mae bellach wedi’i ymestyn hefyd i gydnabod gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a'r gyfraith (AHSSBL), yn ogystal â rolau proffesiynol a chefnogi, ac ar gyfer myfyrwyr a staff trawsrywiol.

Dyfernir gwobrau efydd, arian ac aur i sefydliadau sy’n gallu dangos lefelau cynyddol o arfer da o ran recriwtio, cadw a hyrwyddo menywod yn y meysydd hyn. Derbyniodd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wobr Efydd yn y rownd hon hefyd.

Derbyniodd yr Ysgol Meddygaeth ei gwobr efydd drwy sicrhau bod llais yr holl staff i’w glywed mewn pwyllgorau lleol. Y pwyllgorau hyn ysgwyddodd y cyfrifoldeb dros roi cynlluniau gweithredu pwrpasol ar waith i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dynion a menywod wrth ddatblygu gyrfa. Roedd y mentrau allweddol yn cefnogi'r broses hyrwyddo drwy gylchoedd mentora, a rhoddodd Gwasanaethau Proffesiynol Meddygaeth gefnogaeth i staff y Gwasanaethau Cefnogi Proffesiynol.

Meddai Dr Anna Hurley, Rheolwr yr Ysgol Meddygaeth: "Mae ein gwobr SWAN Athena Efydd yn llwyddiant hynod o gadarnhaol i’r Ysgol, ac i'r holl staff a’r myfyrwyr y mae’r diolch am gofleidio ein gweledigaeth a’i gwireddu..

Ychwanegodd yr Athro Siladitya Bhattacharya, a ddechreuodd ei rôl fel Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth y mis hwn: "Mae’n bleser cael ymuno â’r Brifysgol ar yr adeg hon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at arwain yr Ysgol Meddygaeth wrth i ni barhau i weithredu ein mentrau uchelgeisiol, a gweithio tuag at ddiwylliant lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu a datblygu."

Yn ogystal â'r ddwy wobr newydd, enillodd y Brifysgol gyfan wobr efydd yn 2009, a adnewyddwyd yn 2014.
Ar hyn o bryd, mae gan ddwy o’r Ysgolion Academaidd wobr Arian a deuddeg y wobr Efydd:

Arian

  • Biowyddorau
  • Seicoleg

Efydd

  • Busnes
  • Gwyddorau Cymdeithasol
  • Deintyddiaeth
  • Gwyddorau Gofal Iechyd
  • Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
  • Meddygaeth
  • Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
  • Cemeg
  • Cyfrifiadureg a Gwybodeg
  • Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd
  • Peirianneg
  • Mathemateg

Rhannu’r stori hon

Information on how we work to meet our legal and moral obligations as they apply to equality and diversity.