Ewch i’r prif gynnwys

Deallusion y Brifysgol yn helpu Qioptiq i ennill cytundeb gwerth £82m

9 Mai 2018

Qioptiqed

Mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd wedi helpu cwmni yng ngogledd Cymru i ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m, gan greu a diogelu swyddi.

Mae arbenigwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi treulio dwy flynedd yn datblygu cyfarpar i wella gweithrediadau rhagfynegi stocrestrau Qioptiq, sydd wedi’i leoli yn Ninbych.

Bu’r cydweithio a’r arbenigedd yn help i’r cwmni i sicrhau cytundeb chwe blynedd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) i roi gwasanaeth i offer gweld yn y tywyllwch.

Ac mae hyn wedi arwain at adeiladu warws newydd Qioptiq, gwerth £3.7m - sy’n agor heddiw - y drws nesaf i ffatri bresennol Qioptiq ym Mharc Busnes Llanelwy.

Roedd yr astudiaeth yn bosibl o ganlyniad i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gyd-ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ac Innovate UK.

Canmolwyd y bartneriaeth gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, am uno arbenigedd am ddiwydiant a dealltwriaeth academaidd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn hynod falch o gael cyd-ariannu’r Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth, sydd wedi cyflawni canlyniadau rhagorol.

“Qioptiq yw un o’n cwmnïau Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel mwyaf arloesol sy’n gweithredu yn y sector blaenoriaethu a does dim dwywaith fod y Bartneriaeth wedi helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor y ffatri yn Llanelwy. Mae hyn yn ei dro wedi cael effaith sylweddol ar yr economi leol, gan ddarparu swyddi o ansawdd uchel yn lleol a helpu’r gadwyn gyflenwi ehangach.”

Galluogodd y KTP, sy’n arbenigo mewn rhagfynegi gweithrediadau busnes di-wastraff, i Gydymaith trosglwyddo gwybodaeth, Thanos Goltsos, weithio’n uniongyrchol gyda Qioptiq o dan oruchwyliaeth dau o Athrawon Ysgol Busnes Caerdydd - Aris Syntetos a Mohamed Naim.

Gofynnodd Qioptiq am arbenigedd Caerdydd pan sylweddolwyd y gallai gwelliannau bychain mewn rhagfynegi arwain at gadwyni cyflenwi mwy diwastraff a lleihau costau yn sylweddol.

Dangosodd ymchwil Thanos fod modd i’r busnes leihau ei stocrestrau hyd at 25 y cant. Roedd yn darparu rhagfynegi stocrestrau gadarn ar gyfer gwerthiant a dychweliadau - gan gefnogi model economi gylchol ‘gwasanaeth a gwneuthuriad’ QIOPTIQ ar ei newydd wedd.

Dywedodd Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq: "Mae’r KTP wedi cyflawni canlyniadau rhagorol. Yn y gorffennol, roeddem yn cynnal cadwyn gyflenwi gymhleth ond mae arbenigedd Thanos wedi datblygu cyfarpar y gallem ei ddefnyddio i gefnogi ein gweithrediadau Logisteg Cyflenwi Integredig. Ar gyfer y cyfle hwn, roeddwn yn cydnabod bod angen cymryd ymagwedd fwy gydweithredol at arbenigedd ac arianwyr allanol. Mae’r Bartneriaeth wedi helpu i sicrhau cytundeb mawr gyda Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU i gefnogi cyfarpar sy’n hanfodol i ddiogelu ein milwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen.”

Dilynodd y KTP ymchwil gydweithredol baratoadol a datblygiad prosiect rhwng Qioptiq a Phrifysgol Caerdydd a gynhaliwyd o dan nawdd rhaglen Technolegau Uwch-weithgynhyrchu Cynaliadwy (ASTUTE); buddsoddiad sylweddol o £27M rhwng 2010 a 2015 a ariannwyd yn rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Athrawon Naim a Sytentos: “Fe wnaeth y KTP ein galluogi i ddangos effaith aruthrol yr ymchwil a wnaed ym maes stocrestrau ac optimeiddio yn Ysgol Busnes Caerdydd. Fe gadarnhaodd hefyd bod ein hymchwil sylfaenol, gan gynnwys gwaith a ariannwyd gan yr EPSRC ac sydd wedi ei gyhoeddi mewn papurau academaidd, wedi cefnogi un o brif gwmnïau gweithgynhyrchu y DU yn uniongyrchol gyda manteision yn deillio ohonynt i’r rhanbarth lleol.”

Dywedodd Rheolwr Innovate UK i Gymru, Jon Wood: “Mae’r Bartneriaeth yn un o hanesion llwyddiant clasurol y KTP. Mae’r manteision y gall KTP eu cynnig i fusnesau ledled Cymru yn rhyfeddol.

Mae gan ogledd Cymru glwstwr Ffotoneg fywiog, gyda £500,000 yn cael ei ddyfarnu i 5 cwmni ym Mhwynt Lansio Ffotoneg Gogledd Cymru, a oedd yn cynnwys QIOPTIQ. Ers 2003, mae Innovate UK wedi ymrwymo dros £100 miliwn i dros 400 o sefydliadau yng Nghymru, ac mae swm yr arian wedi codi bob blwyddyn ers 2008.

Ychwanegodd rheolwr KTP Prifysgol Caerdydd, Paul Thomas: “Ni fu erioed amser gwell i gwmnïau fanteisio ar arbenigedd Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd i’w helpu i aros ar flaen y gad mewn economi fyd-eang sy’n symud mor gyflym.”

Dywedodd y Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth Rhanbarthol Mick Card, “Mae rhaglen trosglwyddo gwybodaeth fwyaf llwyddiannus Ewrop, y KTPs, wedi cael ei chynnal ers dros 40 mlynedd ac mae’n ffordd effeithiol iawn o ddefnyddio adnoddau ac ymgorffori newidiadau cynhyrchiant neu arloesedd. Mae KTP yn cynhyrchu elw PBT blynyddol o £1m gyda 4 o bob 5 Cydymaith yn cael eu cadw fel arweinwyr a rheolwyr o fewn y busnes”

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.