Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydedd yr Orsedd i Bennaeth Ysgol y Gymraeg

4 Mai 2018

Dylan Foster Evans

Bydd Dr Dylan Foster-Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei gyfraniad at y Gymraeg ym myd addysg.

Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad Dr Foster-Evans yn lleol ac yn genedlaethol. Ac yntau’n aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn sawl un o ddatblygiadau’r sefydliad, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg.

Mae gan Dr Foster-Evans, a benodwyd yn Bennaeth yr Ysgol ym mis Gorffennaf 2017, ddiddordeb arbennig yn rôl y Gymraeg yn y system addysg a'r gwahanol fathau o Gymraeg a ddefnyddir yn y Gymru gyfoes.

Dywedodd Dr Foster Evans "Braint o’r mwyaf yw derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd, yn arbennig felly yma yng Nghaerdydd. Ni fyddai fy ngwaith ar hanes y Gymraeg yn y ddinas yn bosibl heb gefnogaeth ystod o bartneriaid yng Nghaerdydd a thu hwnt, a bydd yr Eisteddfod eleni yn llwyfan ddelfrydol ar gyfer rhannu’r gwaith hwnnw â chynulleidfa eang. Ar lefel bersonol, wrth gwrs, bydd cael fy urddo i’r Orsedd yn anrhydedd arbennig yr wyf yn ddiolchgar iawn amdano — mae hi’n argoeli i fod yn Eisteddfod gofiadwy iawn."

Yn ogystal ag anrhydeddu Dr Foster-Evans, bydd yr Orsedd yn anrhydeddu’r chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Jamie Roberts (MBBCh, 2013), am ei gyfraniad at godi proffil yr iaith ymhlith chwaraewyr ifanc. Mae’r cyflwynydd teledu a’r newyddiadurwr, Huw Edwards (BA 1983, Anrh. 2003), sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o gyfresi pwysig am hanes Cymru, yn cael ei anrhydeddu hefyd.

Dyma’r cynfyfyrwyr eraill sy’n cael eu hanrhydeddu:

  • Elin Jones AM (BSc, 1987)
  • Alaw Le Bon (BA, 2013)
  • Jeremy Randles BEng (1989)
  • Manon Eames (Cynfyfyriwr 2016)

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mae Caerdydd, 3 - 11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.