Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth y Gyfraith i olygu cyfres newydd o lyfrau

4 Mai 2018

Law Library

Dr Russell Sandberg, Pennaeth y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, fydd golygydd cyfres newydd o lyfrau, Leading Works on Law.

Cyhoeddir y gyfres gan Routledge, a bydd yn edrych ar sut mae is-ddisgyblaethau cyfreithiol penodol wedi datblygu drwy archwilio'r gweithiau blaenllaw sydd wedi siapio, datblygu ac ar adegau gyfyngu ar feysydd astudio fel Cyfraith Teulu, Cyfraith Contractau neu Gyfraith Chwaraeon.

Bydd cyfrolau yn y gyfres yn gweld ysgolheigion blaenllaw a newydd yn trafod 'gweithiau blaenllaw' penodol fel ffordd o archwilio, dadansoddi a beirniadu datblygiad meysydd cyfreithiol. Mae'r gyfres wedi'i chynllunio i ddadansoddi a gwerthuso pensaernïaeth dealltwriaeth Ysgol y Gyfraith o'r gyfraith a/neu is-ddisgygblaethau cyfreithiol.

Mae dwy gyfrol eisoes dan gontract yn y gyfres. Mae Leading Works in Law and Religion, a olygir gan Dr Sandberg, ar hyn o bryd yn cael ei golygu a chaiff ei chyhoeddi ddiwedd 2018 / dechrau 2019 ac mae gwaith wedi dechrau ar Leading Works in Family Law a olygir gan Dr Sharon Thompson, uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Dywedodd Dr Russell Sandberg, "Ar adeg o newid sylweddol sy’n effeithio ar addysgu ac ymchwil yn y gyfraith, ni fu erioed yn bwysicach gofyn beth ydym ni'n ei wneud a pham. Rwyf i wrth fy modd yn cael golygu cyfres Leading Works in Law fydd yn holi sut mae is-ddisgyblaethau cyfreithiol wedi datblygu a sut y gallant ddatblygu drwy gyfeirio at weithiau sydd wedi, neu a ddylai fod wedi cael dylanwad.

"Mae'n briodol mai Caerdydd yw cartref y gyfres o ystyried ein traddodiad cyfoethog o ysgolheictod sosio-gyfreithiol ac athrawiaethol sy'n cwestiynu'r gyfraith ac yn ei gosod yn ei chyd-destun ymarferol a chymdeithasol. Mae hefyd yn briodol y bydd y ddwy gyfrol gyntaf yn trafod is-ddisgyblaethau y mae academyddion y Gyfraith yng Nghaerdydd wedi eu siapio ac yn parhau i'w siapio.  Yr uchelgais yw y caiff pob is-ddisgyblaeth gyfreithiol sylw dros amser ac rwyf i'n edrych ymlaen at weithio gyda golygyddion a chyfranwyr o bedwar ban byd i gyflawni hynny."

Mae Dr Sandberg yn Ddarllenydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac yn awdur a golygydd toreithiog. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ymagweddau rhyngddisgyblaethol at y gyfraith, gan gyfeirio'n benodol at y rhyngweithio rhwng y gyfraith a chrefydd a rôl hanes. Ef yw awdur Law and Religion (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2011) a Religion, Law and Society (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2014). Mae Dr Sharon Thompson yn uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a hi yw awdur y gyfrol Prenuptial Agreements and the Presumption of Free Choice: Issues of Power in Theory and Practice (Hart Publishing, 2015).

Rhannu’r stori hon