Ewch i’r prif gynnwys

Ychwanegion bath ddim yn effeithiol wrth drin ecsema

4 Mai 2018

Putting on lotion

Nid yw arllwys ychwanegion meddalhaol mewn bath yn cynnig unrhyw fantais o'i gymharu â'r dulliau arferol ar gyfer rheoli ecsema, yn ôl astudiaeth newydd gan dîm sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Yn y prawf mwyaf hyd yma o ychwanegion bath meddalhaol, cafodd 482 o blant eu rhoi mewn dau grŵp: gofynnwyd i un grŵp ddefnyddio ychwanegion bath am flwyddyn gyfan, a gofynnwyd i'r llall beidio â'u defnyddio. Cwblhaodd teuluoedd holiaduron byr bob wythnos am y 16 wythnos gyntaf, yna pob 4 wythnos rhwng 16 a 52 wythnos.

Dangosodd y canlyniadau nad oedd gwahaniaeth o bwys yn nifrifoldeb yr ecsema rhwng y ddau grŵp. Nid oedd gwahaniaeth chwaith yn nifer y problemau a gafwyd wrth ymolchi, fel poen neu groen coch ar ôl bath, a effeithiodd ar un rhan o dair o'r plant yn y ddau grŵp.

Dywedodd Dr Nick Francis, Darllenydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd sydd hefyd yn gweithio fel meddyg teulu: "Mae ychwanegion meddalhaol ar gyfer y bath yn aml yn cael eu defnyddio i reoli ecsema, ond mae ein hastudiaeth yn dangos nad ydynt yn debygol o gynnig unrhyw fantais."

Ychwanegodd Dr Miriam Santer o Brifysgol Southampton, arweinydd yr astudiaeth: "Dylai teuluoedd plant gydag ecsema barhau i ddefnyddio lleithydd meddalhaol sy'n cael ei adael ymlaen, ac osgoi sebon."

Mae'r dulliau safonol ar gyfer rheoli ecsema ymhlith plant yn cynnwys defnyddio opsiynau eraill yn lle sebon, lleithyddion sy'n cael eu gadael ymlaen, ac eli corticosteroidau.

Cafodd y treial BATHE ei ariannu gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd NIHR a'i arwain gan Brifysgol Southampton mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nottingham.

Gwyliwch grynodeb byr:  https://youtu.be/tpgnNOhXgl8

Neu ewch i wefan yr astudiaeth: https://www.southampton.ac.uk/bathe

Rhannu’r stori hon