Ewch i’r prif gynnwys

Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol ar daith yn yr Almaen

29 Mehefin 2015

Symphony orchestra in Germany

Daeth taith lwyddiannus Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd i ben yn y Kurhaus Casino yn Baden-Baden gyda'r dorf yn sefyll i'w cymeradwyo

Y cyngerdd hwn oedd yr olaf mewn taith 10 diwrnod o hyd. Yn ystod y daith, ymwelodd aelodau'r gerddorfa â lleoliadau yn yr Almaen, Ffrainc a Gwlad Belg.

Gyda chefnogaeth Canolfan Cyfleoedd Byd-eang y Brifysgol, nod y daith yw galluogi myfyrwyr i fynd i wahanol leoedd drwy hwyluso cyfleoedd ar eu cyfer dramor.

Aeth tua 50 o aelodau'r gerddorfa i'r Almaen ar gyfer y daith, ac ymunodd nifer o gerddorion Ewropeaidd â nhw.

Dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol: "Roedd hwn yn gyfle gwych i ni ddangos talent ein myfyrwyr dramor, yn ogystal â galluogi ein myfyrwyr cerddorol i gael blas ar wahanol ddiwylliannau a pherfformio i gynulleidfaoedd newydd. Chwaraeodd y gerddorfa'n arbennig o dda yn Baden-Baden, ac roedd gweld faint roedd y gynulleidfa'n gwerthfawrogi'r perfformiad yn wirioneddol wefreiddiol.

"Dywedodd un aelod o'r gynulleidfa ei fod bron yn ei ddagrau yn ystod y cyngerdd; soniodd un arall ei fod yn dathlu ei 50fed pen-blwydd priodas ac mai'r cyngerdd oedd yr anrheg orau y gallai ef a'i wraig fod wedi gofyn amdani."

Dywedodd arweinydd y gerddorfa, Mark Eager: "Rydw i wrth fy modd fod y daith i'r Almaen yr wythnos ddiwethaf wedi bod cymaint o lwyddiant. Roedd y gyngerdd yn Baden Baden yn benodol, gyda'r lle o dan ei sang a phawb ar eu traed yn cymeradwyo, yn uchafbwynt i gyflawniadau'r gerddorfa dros y blynyddoedd diwethaf. Cawsom ein canmol i'r cymylau gan yr Almaenwyr yn y gynulleidfa; aeth rhai mor bell â honni ein bod cystal â'u cerddorfa broffesiynol leol - dyna beth yw canmoliaeth.

"O'm safbwynt i, llwyddodd pob chwaraewr i wella'n gerddorol ac yn dechnegol yn ystod yr wythnos o ymarferion, a chefais eu hymrwymiad llawn i gyrraedd y safonau uchaf. Llwyddodd y chwaraewyr gwadd o'r Almaen a Ffrainc i integreiddio'n wych, yn gymdeithasol ac yn gerddorol, gan ychwanegu at werth elfen addysgiadol y daith."

Mae blogiwr y daith, Bronwen Maggs, sy'n fyfyrwraig israddedig yn ei blwyddyn olaf yn yr Ysgol Cerddoriaeth, wedi bod yn cadw cofnod o'r daith ar gyfer gwefan newydd y Gerddorfa Symffoni. Ewch i'r wefan i gael holl newyddion Bronwen yn ystod y daith.

Rhannu’r stori hon