Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr PhD yn ennill gwobr ymchwil fawreddog ar ddechrau ei gyrfa

1 Mai 2018

Myfyrwraig PhD yn derbyn gwobr am y papur orau gan gynrychiolydd o Gymdeithas Astudiaethau Tai
Hannah Browne Gott yn derbyn Gwobr Valerie Karn

Mae myfyriwr PhD o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, Hannah Browne Gott, wedi ennill Gwobr Ymchwilydd ar Ddechrau ei Yrfa Valerie Karn 2018 y Gymdeithas Astudiaethau Tai.

Mae Gwobr Valerie Karn wedi'i henwi er anrhydedd Athro Tai blaenorol Prifysgol Manceinion a oedd yn hyrwyddo pwysigrwydd ymchwil i herio a newid polisïau tai. Mae'r wobr, sy'n cael ei rhoi'n flynyddol, yn cydnabod y papur gorau sy'n gysylltiedig â thai gan academydd ar ddechrau ei yrfa.

Mae Hannah ym mlwyddyn gyntaf ei hastudiaethau PhD ac mae wedi ei hariannu gan efrydiaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (yr ESRC) trwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ac ysgoloriaeth ar y cyd rhwng yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol (ADRN). Mae ei phapur llwyddiannus - Housing rights, homelessness prevention and a paradox of bureaucracy? - wedi cael canmoliaeth gref gan y beirniaid. Fel rhan o'r wobr, a gyhoeddwyd yn ystod cynhadledd flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Tai, bydd Hannah yn derbyn cymorth proffesiynol i gynhyrchu a lledaenu'r papur buddugol.

Yn eu dyfarniad, dywedodd y beirniaid: "Cawsom gystadleuaeth gref iawn a chyflwynwyd gwaith rhagorol, ond eich papur chi oedd dewis clir yr is-bwyllgor ar sail ei fethodoleg gadarn, ymgysylltiad ardderchog â'r theorïau, ac ansawdd da'r iaith ysgrifenedig."

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Hannah: "Rydw i wrth fy modd, mae derbyn Gwobr Valerie Karn 2018 a chael cydnabyddiaeth fel hyn i fy ngwaith yn fraint.

"Dim ond rhai misoedd yn ôl dechreuais i fy astudiaethau PhD, ond fy nod yw archwilio'r berthynas rhwng gwasanaethau digartrefedd, iechyd a throseddu er mwyn cael dealltwriaeth well o'r effaith y mae ymyriadau digartrefedd yn eu cael ar ddefnydd o ofal iechyd a gweithgareddau troseddol. Mae ennill y wobr hon a chael adborth mor gadarnhaol gan y panel o feirniaid yn galonogol iawn."

Fe wnaeth Dr Peter Mackie, sy'n arbenigwr cydnabyddedig ym maes digartrefedd a chysgu ar y stryd, ac yn goruchwylio ymchwil Hannah yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, gynnig llongyfarchiadau: "Dylai Hannah fod yn falch iawn o'i chyflawniad ac o gael ei dewis fel ymchwilydd addawol iawn ar ddechrau ei gyrfa. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi Hannah drwy ei hastudiaethau PhD a gwylio ei datblygiad fel ymchwilydd ac academydd."

Teitl gwaith presennol traethawd ymchwil Hannah yw: Exploring pathways through a rights-based homelessness system: disentangling the relationship between homelessness services, health and crime.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.