Ewch i’r prif gynnwys

£1.2m i gefnogi codwyr Caerdydd

1 Mai 2018

Coding lesson

Bydd Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cael £1.2m i gefnogi eu rôl yn y Sefydliad Codio, sy'n gweithredu ledled y DU.

Bydd yr arian yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol, yn ôl cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams [dydd Mawrth, 1 Mai].

Mae'r buddsoddiad yn ychwanegu at ymgyrch £1.3m i gysylltu disgyblion Cymru â byd codio, Cracio'r Côd, a gyhoeddwyd y llynedd.

Dangosodd ymchwil o 2016 fod y sector digidol yn cyflogi 40,000 o bobl ac yn werth dros £8.5 biliwn mewn trosiant i economi Cymru.

Bydd Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn elwa'n uniongyrchol ar yr arian, a ddyrennir drwy CCAUC, fydd yn cynnwys £0.02m i gefnogi mentrau codio mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Ffurfiwyd y Sefydliad Codio gan Lywodraeth y DU fel rhaglen sy'n canolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth sgiliau digidol ledled y DU.  Mae'n cynnwys prifysgolion, busnesau ac arbenigwyr o fyd diwydiant, gan gynnwys IBM, Cisco, BT a Microsoft.

Bydd yr arian yn talu am gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig ar gyfer labordai Technocamps sy'n cynnig profiad ymarferol i athrawon a dysgwyr o amrywiaeth o weithgareddau ac offer codio.  Bydd hefyd yn ariannu swyddogion cyswllt ysgolion/busnesau, a chlybiau codio ymgysylltu cymunedol gan yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Mae'r Academi eisoes yn cymryd camau i lenwi'r bwlch sgiliau. Mae'n cynnig profiad dysgu unigryw i fyfyrwyr drwy ei raglen addysgu sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau yn y byd go iawn gydag arbenigwyr o fyd diwydiant, gyda'r nod o sicrhau eu bod yn 'barod i weithio' ar ôl graddio."

Dywedodd yr Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Mae'r Sefydliad Codio yn ychwanegu at y bartneriaeth lwyddiannus rhwng Academi Meddalwedd Genedlaethol y Brifysgol, Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr byd diwydiant, er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg cenedlaethol o ran graddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus. Mae ei ffocws ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth drwy brofiad ymarferol ar brosiectau dan arweiniad byd diwydiant yn cynhyrchu graddedigion deniadol sy'n barod i gamu'n syth i yrfaoedd fel peirianwyr meddalwedd masnachol."

Gwnaed y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, Caerdydd, sy'n cynnal clwb codio.

Mae côd cyfrifiadurol yn set o reolau neu gyfarwyddiadau a ddefnyddir i greu meddalwedd, apiau a gwefannau. Mae meistroli codio yn galluogi defnyddwyr i ddod yn awduron technoleg.

Ers cyhoeddi Cracio'r Côd, mae dros 200 o athrawon wedi cael hyfforddiant codio. Ledled Cymru, yn 2017/18, cynhaliodd Technocamps tua 200 o weithdai i dros 5,250 o ddisgyblion mewn 85 o ysgolion cynradd a 25 o ysgolion uwchradd.

Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Bydd yr arian yn galluogi prifysgolion i gynnal rhaglenni gradd newydd a diwygiedig mewn Peirianneg Meddalwedd, Deallusrwydd Artiffisial a Seibrddiogelwch, gyda llawer mwy o gyfleoedd i gael mynediad at brofiad gwaith. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y 'gadwyn gyflenwi' o godwyr yng Nghymru: gan gynnwys gwella sgiliau athrawon a chynnal gweithdai cyfrifiadureg, neu greu graddedigion technegol sy'n barod ar gyfer byd gwaith. Drwy lysgenhadon STEM myfyrwyr, bydd prifysgolion yn helpu i gael gwared ar ffactorau sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan, ac yn cynnig mwy o gyfleoedd i fenywod gymryd rhan mewn cyfrifiadureg."

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ac Arweinydd Sefydliad Codio Cymru: "Gyda rhaglen Technocamps drwy Gymru gyfan, a thrwy gyrsiau prentisiaeth peirianneg meddalwedd newydd i gyflogeion amser llawn o gwmnïau ledled De Cymru, mae Prifysgolion Cymru ac Abertawe gyda'i gilydd yn rym pwerus yng Nghymru ar gyfer mynd i'r afael â'r diffyg sgiliau cenedlaethol yng ngweithlu'r economi ddigidol."

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.